Piod Llambed yn cipio’r Dwbwl!

Llwyddiant rhyfeddol Ieuenctid Llambed!

gan Lowri Gregson
received_638205528181028

Roedd tîmoedd dan 14 a dan 16 yn teithio i Aberaeron nos Fawrth er mwyn cystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan De Ceredigion – ac am noson!

Am 5.30yh,  tîm dan 14 fu’n brwydro’n galed yn erbyn tîm cryf Llandudoch. Di sgôr oedd y gêm hanner amser, ond fe ddangosodd y tîm gryfder a dyfalbarhad gan sgorio’r gôl gyntaf ar ôl 58 munud. Gôl arbennig oddi ar droed Ryan Bundock a wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth.

Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm.

Am 7yh tro tîm dan 16 oedd i chwarae’n erbyn Llandudoch. Er mae Llandudoch wnaeth sgorio’r gôl gyntaf, ni wnaeth y bechgyn ddigaloni o gwbwl ac fe ddangosodd bechgyn Llambed eu gwytnwch, sgiliau a hyder gan ennill yn gyfforddus erbyn y diwedd 3-1! Sgorwyd y goliau gan Llyr Davies, Jake Jones a Rhun Davies. Camp anhygoel i’r tîm yma –  ennill y gynghrair a’r cwpan.

Yn anffodus dyma diwedd cyfnod i’r grŵp talentog yma o fechgyn gan fod eu cyfnod yng nghynghrair ieuenctid nawr ar ben. Mae diolch enfawr i Dylan Davies eu hyfforddwr sydd wedi bod yn arwain y tîm ers dyddiau dan 6. Mae Dylan wedi gweld y bechgyn yn tyfu ac yn aeddfedu yn y gêm a heb os yn falch iawn ohonynt. Mae’r bechgyn hefyd yn ddiolchgar iawn o ymroddiad di flino Dylan – ac mae’r holl waith caled wedi talu ffordd. Am ffordd arbennig i goroni diwedd cyfnod mor arbennig i’r criw yma.