Nôl i’r ysgol : Dim poteli plastig yn cael eu gwerthu yn Ysgol Bro Pedr

Camau “er mwyn lleihau llygreddplastig yn yr ysgol”.

gan Ifan Meredith

Mewn datganiad ar Facebook, cyhoeddwyd gan yr ysgol ni fydd ffreutur blynyddoedd 7-13 bellach yn gwerthu dŵr mewn poteli plastig untro o fis Medi ymlaen.

“anogir y disgyblion i ddod â photeli personol er mwyn eu hail-lenwi”

Aiff y datganiad ymlaen i sôn y byddai modd i ddisgyblion a staff ail-lenwi eu poteli aml-ddefnydd wrth ddefnyddio’r peiriannau dŵr yn y ffreutur ac yn y coridorau.

Yn ei datganiad cyntaf fel Pennaeth Ysgol Bro Pedr, cyflwyna Carys Morgan rifyn cyntaf cylchlythyr ‘Llais Pedr’ lle sonia am y “fraint ac yn anrhydedd” o gyflwyno’r cylchlythyr.

“A fo ben bid bont’ yw ein harwyddair ac yn wir mae’n cwmpasu popeth yr ydym yn ei gredu ynddo yn yr ysgol hon.”

Wrth sôn am weledigaeth yr ysgol, meddai ei fod yn “cwmpasu adeiladu a chryfhau sylfeini’r bont” er mwyn sicrhau taith addysgiadol “hapus a llwyddiannus” lle gall disgyblion gyflawni eu potensial.

Yn y rhifyn arbennig yma o ‘Llais Pedr’, ceir gyfle i gwrdd â rhai staff Ysgol Bro Pedr a lansiwyd ‘Gwerthoedd Bro Pedr’.