Radio Bro Pedr yn torri’r newyddion!

Mae Radio Bro Pedr yn parhau i fynd o nerth i nerth- dewch i wrando.

gan Ifan Meredith

Ers ei sefydlu, mae mwy o raglenni wedi eu cyhoeddi ar gyfrif ‘Soundcloud’ Radio Bro Pedr gan gynnwys rhifyn i ddod i nabod y tîm tu ôl i’r meic, sgyrsiau am 6ed dosbarth Bro Pedr a llawer iawn mwy!

Y rhifyn diweddaraf oedd rhaglen yn torri’r newyddion am echdoriad yng Ngwlad yr Iâ gyda sgyrsiau ecsgliwsif gyda daearyddwyr yr ysgol a fu ar daith i’r wlad ar ddiwedd Hydref.

Gwrando NAWR!

Gyda lansiad y radio, braf yw cyhoeddi ‘Jingle’ newydd ar ei chyfer hefyd. Mae’r ‘Jingle’ i’w weld yn y drydedd raglen sy’n cwrdd â’r tîm tu ôl dyluniad y logo, cyfansoddiad y ‘Jingle’ a’r cyflwynwyr.

Gwrando NAWR!

Mae un rhaglen ar ôl sef rhaglen am y 6ed dosbarth a fu’n trafod pwnc llosg am ddyfodol addysg ôl-16 yng Ngheredigion a sgyrsiau gyda myfyrwyr a phennaeth y 6ed.

Gwrando NAWR!

Wrth edrych ymlaen at y Nadolig, rydym yn gyffrous i gyflwyno rhaglen arbennig ar gyfer y Nadolig felly cadwch lygad allan am y rhaglen lawn yma!