Record Newydd ym Mart Llanybydder!

Adroddiad Mart 10fed o Fehefin

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd dros 380 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn dda iawn ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda nifer yn cwestiynnu’r angen i fynd a’i gwartheg ymhellach!

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn:

Eidon gorau – £2190 o eiddo Davies, Panteryrod

Aner orau – £2050 o eiddo Higgins, Penlan

Buwch orau – £1650 o eiddo James, Pantywheel

Buwch a lloi hyd at £2000

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Rhai dyddiadau i’ch dyddiadur

Nos Wener 16eg o Fehefin – arwerthaint fferm Waun, Rhydowen am 5:30yh.

Dydd Sadwrn y 1af o Orffennaf – Sioe Llambed – galwch draw am baned.

Arwerthiant stôr nesaf – 8fed o Orffennaf.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.