Rhaglen Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan 2023

Cyhoeddi Rhaglen a Rhestr Testunau yr Eisteddfod 

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_5134

Rhaglen a Rhestr Testunau Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan 2023

Pob dymuniad da i bawb yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yr wythnos hon.

Cynhelir Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar benwythnos Gŵyl Banc Awst 26ain-28ain 2023.

Mae trigolion a thref Llanbed yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r Eisteddfod. Mae’r rhaglen yn cynnig rhywbeth at ddant pawb:

  • Y cystadlaethau llwyfan (Sadwrn a’r Llun)
  • Yr arddangosfa Celf a Chrefft (Sadwrn a’r Llun)
  • Yr Oedfa Undebol yng Nghapel Shiloh (bore Sul)
  • Llais Llwyfan Llanbed (nos Sul)
  • Talwrn y Beirdd (nos Lun).

Yr Adran Lenyddol:

Os ydych am gystadlu, rhaid i bob cynnig llenyddol fod yn llaw’r Pwyllgor Llên erbyn bore Mawrth, 15fed Awst.

Os ydych am gofrestru tîm i gystadlu yn Nhalwrn y Beirdd, disgwylir i’r timau gofrestru erbyn dydd Mawrth 15fed Awst.

Cadeirydd y Pwyllgor Llên: Elin Williams.

Ysgrifennydd y Pwyllgor Llên: Marian Morgan – davies_marian879@hotmail.com

Yr Adran Lefaru:

Bydd angen i gystadleuwyr gofrestru ar gyfer y cystadlaethau llwyfan erbyn dydd Llun 21ain Awst.

Cadeirydd y Pwyllgor Llefaru: Elin Williams.

Ysgrifennydd y Pwyllgor Llefaru: Margaret Wilson – margaretwilson18@hotmail.co.uk

Yr Adran Gerdd:

Bydd angen i gystadleuwyr gofrestru ar gyfer y cystadlaethau llwyfan erbyn dydd Llun 21ain Awst.

Cadeirydd y Pwyllgor Cerdd: Rhiannon Lewis.

Ysgrifennydd y Pwyllgor Cerdd: Delyth Morgans Phillips – delyth.gwenllian@gamil.com

Os ydych yn cystadlu yn yr Adran Gerdd Dant, rhaid i’r cystadleuwyr ddanfon copi o’r alaw a’r cyweirnod at delynores yr Eisteddfod. Cysylltwch gyda Gwawr Taylor – gwawrj@hotmail.com

Yr Adran Gelf a Chrefft:

Os ydych am gystadlu, byddwn yn derbyn eich gwaith yn Adeilad y Celfyddydau, Campws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nos Fercher 23ain Awst, rhwng 5.00 a 6.30 o’r gloch. Cofiwch sicrhau fod enwau, rhif y gystadleuaeth ac enw ysgol neu goleg ar y gwaith ac nid ffugenw os gwelwch yn dda.

Cadeirydd y Pwyllgor Celf a Chrefft: Rhian Evans.p

Ysgrifennydd y Pwyllgor Celf a Chrefft: Nia Davies – niawynmaesglas@gmail.com

Tlysau yr Eisteddfod:

Gofynnir i’r enillwyr sydd â chwpanau/tariannau sialens eu dychwelyd erbyn dydd Llun 21ain Awst i:

Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Emlyn Davies – emlynfronlas.davies@gmail.com

Dewch i gefnogi Eisteddfod Llanbed Gŵyl Banc Awst 26ain, 27ain a’r 28ain, 2023. Gellir lawrlwytho’r rhaglen oddi ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.