Codi ymwybyddiaeth o’r rheilffordd goll wrth gerdded

Ers 1965 mae’r darn o rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin wedi diflannu o’r rhwydwaith.

gan Ifan Meredith

Mae gan Traws Linc Cymru nod i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ac i hyrwyddo’r ymgyrch mae Elfed Wyn ap Elwyn yn cerdded o Fangor i Gaerdydd lle fyddai’r rheilffordd yn rhedeg gan basio drwy Afon Wen, Aberystwyth, Llanbed a Chaerfyrddin.

“allweddol i ailagor y rheilffordd er mwyn ailgysylltu cymunedau”

Gobaith y daith yw i dynnu sylw at yr angen am ddarpariaeth trên gwell i gysylltu Gogledd a De Cymru ac mewn sgwrs gyda Clonc360, disgrifiodd Elfed Wyn ap Elwyn y daith fel “sesiwn hyrwyddo mawr”.

Yn ôl deiseb diweddar, mae yna lawer o gefnogaeth wrth i dros 11,500 o lofnodion gael eu casglu mewn deiseb Seneddol sy’n golygu bydd y pwnc yn cael ei ystyried ar gyfer dadl yn Senedd Cymru. Y gobaith yw y bydd y daith yn pasio drwy Llanbed ddydd Gwener ar ei ffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

“plethu 5 sir Gymreig at ei gilydd er mwyn hybu’r iaith a datblygiadau economaidd”

Er bod trafnidiaeth a gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru wedi eu datganoli, mae’n gyfrifoldeb ar Senedd y DU i fuddsoddi ‘Network Rail’ sy’n adeiladu’r isadeiledd. Mewn datganiad i’r wasg, esbonia Traws Linc Cymru nad oedd unrhyw rwystrau sylweddol i’r llinell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin mewn Astudiaeth Dichonoldeb.

Map o holl linellau rheilffordd Cymru gyda’r rhai sy’n goch yn dangos y rheiny nad ydynt bellach yn weithredol.