Un o gymeriadau ifanc hoffus tref Llanbed sy’n datgelu ei gyfrinachau yng ngholofn “Cadwyn y Cyfrinachau” yn rhifyn mis Medi Papur Bro Clonc.
Mae Nathan Plant yn gweithio i gwmni LAS Llanbed ac yn teithio’r wlad mewn lori o ddydd i ddydd. Dyma flas i chi o’i ymatebion i gwestiynau Clonc.
Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Mynd i weithio gyda Dad yn y lori.
Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Syrthio oddi ar fy meic o flaen pawb yn y clwb rygbi.
Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Rhoi dŵr ym mheiriant torri gwair dad yn lle petrol gan feddwl mod i’n helpu.
Pryd est ti’n grac ddiwethaf?
Pan fwrodd menyw mewn i fi ar y gylchfan yn Llanbed.
Beth yw’r cludfwyd o’th ddewis?
Lloyds ‘Sausage and Chips’.
Pwy neu ba beth wyt ti’n ei drysori fwyaf?
Fy nai newydd – Tomos Jac.
Unrhyw dalentau cudd?
Carioci Bush.
Er mwyn darllen rhagor am Nathan, cofiwch brynu copi cyfredol o Bapur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol.