Rhoi dŵr ym mheiriant torri gwair dad

Cyfrinachau Nathan Plant, Llanbed ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Un o gymeriadau ifanc hoffus tref Llanbed sy’n datgelu ei gyfrinachau yng ngholofn “Cadwyn y Cyfrinachau” yn rhifyn mis Medi Papur Bro Clonc.

Mae Nathan Plant yn gweithio i gwmni LAS Llanbed ac yn teithio’r wlad mewn lori o ddydd i ddydd.  Dyma flas i chi o’i ymatebion i gwestiynau Clonc.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Mynd i weithio gyda Dad yn y lori.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.

Syrthio oddi ar fy meic o flaen pawb yn y clwb rygbi.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?

Rhoi dŵr ym mheiriant torri gwair dad yn lle petrol gan feddwl mod i’n helpu.

Pryd est ti’n grac ddiwethaf?

Pan fwrodd menyw mewn i fi ar y gylchfan yn Llanbed.

Beth yw’r cludfwyd o’th ddewis?

Lloyds ‘Sausage and Chips’.

Pwy neu ba beth wyt ti’n ei drysori fwyaf?

Fy nai newydd – Tomos Jac.

Unrhyw dalentau cudd?

Carioci Bush.

Er mwyn darllen rhagor am Nathan, cofiwch brynu copi cyfredol o Bapur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol.