Silian yn ennill y Faner Werdd

Gwirfyddolwyr yn cael eu clodfori

gan Eryl Evans

Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi ennillwyr Gwobr Y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon.

Mae cae chwarae cwmins Silian wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd mewn cydnabyddiaeth o’i ymdrechion amgylcheddol, glendid, diogelwch a chyfranogiad y gymuned.

Pentre bach gwledig ger Llambed yw Silian ac mae’r pobl sydd yn byw yno wedi dod at ei gilydd i greu ardal hyfryd sydd o fudd i’r gymuned.

Nôl yn 2019 derbyniodd Menter Silian pecyn datblygu bywyd gwyllt gan Cadwch Cymru’n Daclus. Dywedodd Cyng. Eryl Evans  ar ran y grŵp

“Mae hyn yn newyddion da iawn, ac yn adlewyrchu’r holl waith caled sydd wedi cael ei wneud dros y 4 mlynedd dwetha. Mae’r ardal yma o dir cwmins wedi altro yn ryfeddol ac erbyn hyn yn fan cwrdd ar stepen drws ac yn le delfrydol i fwynhau ac ymlacio. Mae’r clawdd a blodau gwyllt a blannwyd yn harddu’r ardal ac yn creu bwyd a lloches i fywyd gwyllt. Mae derbyn y Faner Werdd yn glôd mawr i’r gwirfyddolwyr sydd yn rhoi eu hamser a’u hegni tuag at wella’r pentre ac rwyn falch iawn o bob un o honnynt.”

Mae 180 o fannau gwyrdd wedi eu rheoli gan y gymuned wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i ennill Baner Werdd Gymunedol.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd wedi eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.

Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae mynediad am ddim i ardaloedd gwyrdd o safon uchel a diogel mor bwysig ag erioed. Mae ein safleoedd penigamp yn chwarae rôl allweddol yn iechyd meddwl a chorfforol pobl, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur.”

“Mae’r newyddion bod y nifer uchaf erioed o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.”