Silindrau propan oedd achos y ffrwydriadau uchel yn y tân difrifol yn Llambed ddoe

Credir mai damweiniol oedd achos y tân ym Modurdy Tomos Lewis

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Yn dilyn tân difrifol ar Ystad Ddiwydiannol Llambed ddoe, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhyddhau datganiad.

Am 10.02yb ar Ddydd Sul, Mehefin 18fed, cafodd criwiau Llanbedr Pont Steffan, Tregaron, Aberaeron, Llandysul, Y Tymbl, Llanymddyfri, Caerfyrddin, Llanelli a Llandeilo eu galw i ddigwyddiad ar Stad Ddiwydiannol Llambed.

Roedd un adeilad modurdy masnachol yn mesur tua 10m x 10m ar dân, roedd nifer o gerbydau tu fewn a thu allan i’r garej ar dân, yn ogystal â dros 70 o silindrau propan. Aeth y criwiau i’r afael â’r tân gan ddefnyddio tri monitor daear, tair rîl pibell pwysedd uchel, camerâu delweddu thermol ac un set o offer anadlu. Parhaodd y criwiau i wlychu safle a monitro tymheredd. Credir mai damweiniol oedd achos y tân.

Gadawodd y criwiau y lleoliad am 1.39yp.

Gellir gweld fideo o’r tân yn lledu o un cerbyd i’r llall ar wefan Clonc360.