Sioe Feirch Llambed yn parhau i ddenu cannoedd o gystadleuwyr

Rheolau newydd Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig ddim yn plesio pwyllgor y sioe feirch

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan

Lluniau gan Hannah Parr

Roedd Sioe Feirch Llambed yn un wahanol eleni am iddi beidio bod yn gysylltiedig gyda chymdeithas y merlod a’r cobiau Cymreig. Doedd rheolau newydd y gymdeithas ddim yn plesio pwyllgor y sioe feirch ac fe benderfynwyd torri’r cyswllt. Bu i hyn fod yn destun trafodaethau hir gan y pwyllgor, mae’n siŵr.

Er hyn, ni effeithwyd ar statws y sioe fel un o brif sioeau’r bridiau Cymreig ar ôl y Sioe Fawr gyda chystadleuwyr ac ymwelwyr yn cynnull o ar draws Prydain a thu hwnt. Roedd hi’n braf hefyd fod yn ôl yn y cae ‘arferol’ ar ôl i’r sioe gael ei chynnal ar gaeau gwahanol ar dir fferm Llanllyr, Talsarn y llynedd.

Roedd y bore’n braf ac fe gododd y tarth yn sydyn iawn ac erbyn 9.30yb roedd y cylchoedd yn llawn. Llywydd y dydd oedd Les Davies o fridfa enwog Blaengwen, Llanon. Mae Mr. Davies yn dad i Nicola Jones, bridfa Fronarth, ac mae ei gyfraniad i’r sioe wedi bod yn sylweddol dros y blynyddoedd.

Ei ddewis fel pencampwr y sioe oedd Donys Dick Turpin o eiddo teulu’r Kirk, Llanfair ym Muallt. Aeth prif bencampwriaeth y cobiau Cymreig dros y bont i fridfa Trevallion o orllewin canolbarth Lloegr. Roedd hi’n braf iawn gweld nifer o wobrau eraill yn aros yn lleol gyda sawl un o ddalgylch papur bro Clonc yn serennu.