Sioe Llanfair ar Ŵyl y Banc

Prynhawn hwyliog ar y gweill yn Llanfair Clydogau

Anwen Williams
gan Anwen Williams
370599047_664512138945588

Dai Jones, Cadeirydd y Sioe

370577157_860658195427866

Ian Evans, Llywydd y Sioe

Roedd hi’n brysur yn Llanfair Clydogau bore ’ma wrth i bawb gyrraedd gyda’u nwyddau ar gyfer Sioe Llanfair Clydogau.

Mae’r neuadd yn cau am 12.30pm ar gyfer y beirniadu ond bydd digon o hwyl i’ch diddanu prynhawn yma.

Sioe gŵn sydd gyntaf am 2pm ac yna cynhelir gemau i blant yn syth wedi hynny.

Am 2.30pm fydd y neuadd yn agor i bawb gael gweld pwy sydd wedi ennill ym mhob categori!

Ymunwch gyda ni am y BBQ a’r adloniant sy’n dechrau o 4pm ymlaen.

Dewch draw i Lanfair Clydogau prynhawn yma i ymuno yn yr hwyl.