Ganol bore ddoe fe synnwyd pobl Silian i weld bod blwch post y pentre wedi diflannu. Medd aelod o’r pentre sy’n byw gerllaw “yn sicr roedd e yno peth cyntaf y bore. Mae’n edrych yn debyg ei fod wedi ei ddwyn yng ngolau dydd.”
Nôl yn yr haf llynedd roedd un o bentrefwyr Silian sef Jill Barnicoat wedi rhoi côt o baent coch newydd ar y blwch fel rhan o’r paratoiadau erbyn croesawu yr Eisteddfod i Geredigion. Yn ychwanegol roedd Gwyneth Evans wedi ei addurno, ac roedd yn destun sylw a diddordeb o fewn y pentre.
Ond wedi sgwrs gan y swyddfa bost leol mi ddeallwyd ei fod wedi ei symund gan y Post Brenhinol. Mae hyn yn archwiliad sydd yn cael ei wneud yn flynyddol ac mi ddarganfwyd fod na rwd ar gefn y bocs yn Silian ac ei fod yn ‘beryglus.’ Deallwn fod yna nifer o flychau post eraill wedi eu symud o’r ardaloedd cyfagos hefyd.
Yn ôl y Post Brenhinol nid yw yn angenrheidiol bydd y blwch yn cael ei drwsio nac yn cael ei ail osod. Mae hyn yn siom enfawr i bobl y pentre. Roedd nifer yn ei ddefnyddio yn gyson yn enwedig gan ei fod o fewn tafliad carreg i’r mwyafrif.
Medd y Cynghorydd Eryl Evans “rwy wedi codi y mater yma gyda’r Post Brenhinol. Maent yn edrych mewn i’r sefyllfa ond ar hyn o bryd ddim yn medru addo dim byd pendant. Rwy’n benderfynnol o ceisio cael ein blwch post yn ôl, mae hwn yn un o’r adnoddau diwethaf sydd gennym o fewn y pentre ac mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud ein gorau i’w gadw. Mae’n anodd credu nad yw’r Swyddfa Bost wedi rhoi unrhyw rybudd am y weithred hon a wedi creu braw heb eisiau i nifer o drigolion. Rhai blynyddoedd yn ôl mi ddwgodd rhywun y blwch post oedd â’r llythrennau VR arno oddi ar bont Silian yng nghanol nos, ac roedd yn naturiol i feddwl bod yr un peth wedi diwgwydd unwaith yn rhagor.”