Cau toiledau ar faes parcio yn Llanbed

Ers mis Ebrill, mae toiledau ger maes parcio’r Cwmins ynghau.

gan Ifan Meredith
toiledau-ll

Mewn datganiad fore ddydd Gwener dywed Cyngor Sir Ceredigion bod “mwyafrif” o doiledau cyhoeddus y sir ar gai oherwydd y tywydd oer.

Gwnaeth Clonc360 glywed am bryder ymwelwyr â Llanbed dros ddiffyg toiledau cyhoeddus yn y dref wythnos ddiwethaf.

Mae’r toiledau ar Stryd San Thomas ger maes parcio’r Cwmins wedi bod ynghau ar ôl achos o dân bwriadol yn yr adeilad.

“difrod mwg drwg yno a chostau mawr”

Mewn ymateb i’r honiad nad ydynt wedi ailagor eto, medd Cyngor Tref Llanbed:

“Bydd y Cyngor tref yn trafod yn ein Cyfarfod misol fis Ionawr ynglyn â phosibilrwydd talu cyfraniad at gostau cynnal a chadw petai’r toiledau yn cael eu hadfer gan y Cyngor Sir.”

Mewn cais rhyddid gwybodaeth i Gyngor Sir Ceredigion, derbyniodd y Sir £64,304 mewn incwm yn y flwyddyn 2022-23 tra’u bod yn gwario £458,381 ar gynnal a chadw toiledau cyhoeddus Ceredigion.

Mi fydd Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu ei darpariaeth o’r 33 toiledau cyhoeddus sydd yn y sir a thrwy hynny yn ystyried y camau nesaf ond yn ôl Cyngor Tref Llanbed, nid yw’r “sefyllfa iechyd a Diogelwch y safle ddim yn addawol iawn.”

Ymateb Cyngor Sir Ceredigion oedd bod yna oedi i’r gwaith adnewyddu “oherwydd bod asbestos yn bresennol.”

Aethant ymlaen i sôn am y ddarpariaeth o doiledau eraill sydd ar gael yn nhref Llanbed.

“Yn ffodus, mae dau gyfleuster cyfagos ar gael ar gyfer toiledau ym Maes Parcio Lôn Rookery ac ym Maes Parcio Sainsbury, sydd o fewn pellter cerdded byr.”