Trêd ardderchog ym Mart Llanybydder

Adroddiad Dydd Sadwrn 12eg o Awst

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd dros 500 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn dda iawn gyda nifer yn cwestiynnu’r angen i fynd a’i gwartheg ymhellach!

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn..

Eidon gorau – £1,970 o eiddo Jenkins, Brohedydd

Aner orau – £1,680 o eiddo Jones, Pantdderw

Buwch orau – £1,370 o eiddo Davies, Llwynhenwas

Buwch a lloi hyd at £1,925 o eiddo Jones, Garnwen

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Bydd yr arwerthiant stôr nesaf  ar y 9fed o Fedi

Hefyd cofiwch fod y cyfnod defaid magu ac wŷn stor yn cychwyn ac rydym yn disgwyl misoedd prysur o’n blaenau.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.