Trêd ardderchog

Adroddiad mart da stôr Llanybydder

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd bron i 550 o wartheg yn bresennol yn Llanybydder a’r trêd yn ardderchog ar ddydd Sadwrn yr 8fed Ebrill.

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn..

Eidon gorau – £2080 i Bowen, Pwllglas

Aner orau – £2000 o eiddo George, Ty Llo

Buwch orau – £1870 o eiddo Davies, Henbant

£1273 – pris cyfartalog yr eidonau

£1136 – pris cyfartalog yr aneirod

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Y 13eg o Fai fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd hefyd arwerthiant ychwanegol ar ddiwedd mis Mai ar gyfer stoc magu ar y 27ain.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.