Trêd yn parhau i fod yn ardderchog ym Mart Llanybydder

Adroddiad Mart y 9fed o Fedi

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd bron i 500 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn ardderchog unwaith eto ym Mart Llabybydder.

Roedd y prisiau uchaf fel a ganlyn..

Eidon gorau – £1960 o eiddo Jenkins, Brohedydd

Aner orau – £1730 o eiddo Lewis, Foelallt

Buwch a lloi hyd at £1950 o eiddo Evans, Aberceilog

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg ac roedd yn bleser gweld y stoc gyda’r prynwyr i gyd yn canmol safon y gwartheg sy’n dod i Lanybydder

Bydd yr arwerthiant stôr nesaf ar y 14eg o Hydref.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.