Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Yn ôl yr heddlu, roedd yna dri cherbyd yn rhan o’r gwrthdrawiad, fan Vauxhall gwyn, BMW llwyd a Ford glas. Maent yn apelio am dystion i’r digwyddiad ar heol y B4336 rhwng Llanllwni a Llanfihangel-Ar-Arth tua 9:55yh ar Nos Wener, yr 17eg o Dachwedd.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, bu farw dyn 32 oed yn y fan a’r lle a chludwyd pedwar person i’r ysbyty.
Mewn datganiad, medd yr heddlu bod y teulu wedi cael ei hysbysu ac y byddent yn parhau i gefnogi’r teulu.
Mae’r Heddlu yn apelio am unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod DP-20231117-436.