Cafwyd wythnos lwyddiannus o weithgareddau yn Llanbed yn arwain at ddiwrnod mawr y Carnifal heddiw.
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi helfa drysor cerdded nos Lun. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobol mas ar y strydoedd yn cefnogi’r Carnifal. Y trefnwyr oedd Llunos Bowen a Mareth Lewis. Yr enillwyr oedd Huw a Gwawr Bowen, 2il oedd Miriam & co ac yn drydydd Rhian, Glenda, Sara a Leanne.
Diolch i bawb a ddaeth mas ar yr helfa drysor i geir nos Fercher, a diolch i Nerys James Davies, Rhys a Reth am drefnu’r helfa. Yr enillwyr oedd Rhian a Sara, yn 2il oedd Gwawr, Rhian ac Elen ac yn 3ydd Tim, Jenny ac Annwen.
Diolch hefyd i bawb a ddaeth mas i gefnogi Cwis Carnifal Llanbed nos Iau. Hyfryd gweld cymaint o bobol yn y Clwb Rygbi. Diolch i Meryl a’i help Dan am wneud y Cwis, grêt fel arfer. Yn gyntaf oedd tîm Brenhines y Carnifal Tia, 2il oedd tîm Emma & Co, 3ydd oedd Sara Jarman, Rhian, Elen, Gwawr a Rhian.
Edrych ymlaen i’ch gweld chi yn y Carnifal prynhawn ma. Os hoffech flas o Garnifal Llanbed dros y blynyddoedd erdychwch ar hen adroddiadau Clonc360.