Yn ddiweddar cyflwynwyd trefniadau parcio gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar y campws yn Llanbed, a rhaid bod yn ofalus i ddilyn y camau cywir wrth barcio yno.
Os ydych yn mynychu digwyddiad yno neu’n parcio yno tra’n siopa yn y dref, cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau. Caniateir parcio am ddim am 30 munud yn unig. Byddwch yn barod am ddirwy os ewch chi dros yr amser hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran Y Brifysgol:
“Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno system rheoli parcio ar draws ei champysau i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd campws diogel a hygyrch i’n myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Mae rheoli parcio yn her gynyddol gyda phob campws yn wynebu ei faterion penodol ei hun, ac nid yw Llambed yn eithriad.
Rydym yn deall, fodd bynnag, fod cyflwyno’r system talu am barcio wedi achosi peth anhawster yn Llambed ac rydym yn cysylltu ag aelodau o’n cymuned i fynd i’r afael â’u pryderon. Er enghraifft, rydym yn darparu parcio am ddim i grwpiau sy’n defnyddio cyfleusterau ein campws yn rheolaidd, gan gynnwys stondinwyr a chwsmeriaid Marchnad Llambed.
Byddem yn annog y rhai sy’n cael anawsterau i e-bostio parking@uwtsd.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau fel y gallwn wneud ein gorau i’w datrys.
Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth pobl Llambed a’r cyffiniau yn fawr ac rydym wedi datblygu nifer o fentrau ar y cyd er budd y ddwy ochr. Mae’n berthynas yr ydym yn ei gwerthfawrogi ac yn dymuno ei gweld yn datblygu ac yn ffynnu”.
Dywedodd un gŵr lleol siomedig ei fod wedi cael dirwy o £60 yn y post wedi iddo gefnogi cyngerdd gan Ysgol Ddawns leol yn y brifysgol. Roedd trefniadau mewn lle ar y noson i fynychwyr gofrestru eu ceir am ddim, ond yng nghanol bwrlwm y gyngerdd a’r cymdeithasu, ni lwyddodd e i wneud hynny. Talodd y ddirwy ar unwaith ac o ganlyniad gostyngwyd y cyfanswm.
Ydy hyn yn mynd i effeithio ar economi’r dref tybed a lleihau’r berthynas hyfryd sydd rhwng y gymuned a’r brifysgol?
Wrth gyhoeddi trefniadau Marchnad Llambed ar dir y coleg, dyweddodd Dinah Mulholland:
“Yn dilyn trafodaethau, mae PCYDDS wedi cytuno i roi parcio am ddim yn ystod oriau agor Marchnad Llambed i’w masnachwyr a’i chwsmeriaid.
Ar hyn o bryd mae’n dal yn ofynnol defnyddio cod QR wedi’i sganio i gofnodi cofrestriad eich car ar gyfer eithriad, a bydd y cod hwn yn cael ei arddangos yn amlwg wrth fynedfa’r Farchnad. Cyn belled â’ch bod yn gwneud hyn (ar ffôn clyfar) o fewn 30 munud i gyrraedd a pharcio, bydd am ddim.
Mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â sut y gall y rhai sydd heb ffonau clyfar gael mynediad at hyn, ond yn y cyfamser gallwch chi logio’ch cofrestriad car gan ddefnyddio ffôn rhywun arall os ydyn nhw’n fodlon helpu. Bydd Dinah (Rheolwr y Farchnad) wrth y giât yr wythnos hon ac mae wedi cynnig gwneud hyn i gwsmeriaid.
Gallai materion eraill sy’n ymwneud â’r cynllun newydd y tu mewn a’r tu allan i oriau’r Farchnad, gan gynnwys tynnu’n ôl y cynllun parcio am ddim i ddeiliaid Bathodynnau Glas, hefyd fod yn rhan o drafodaethau pellach rhwng y Farchnad a’r Brifysgol.”
Felly byddwch yn wyliadwrus. Mae camerâu wrth fynedfeydd y brifysgol yn tynnu llun rhifau ceir wrth iddynt gyrraedd a gadael. Mae cwmni ar ran y brifysgol wedyn yn nodi’r amseroedd hyn ac yn danfon dirwyon i bawb sydd wedi bod yno yn eu ceir am dros 30 munud.