Ym mis Medi 2023, bydd deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfyngiad cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (gyda goleuadau stryd) ledled Cymru yn lle’r cyfyngiadau 30mya presennol. Caiff hyn ei wneud er mwyn:
- Gwella diogelwch ffyrdd
- Creu ardaloedd cerdded a beicio mwy diogel
- helpu i wella ein hiechyd a’n llesiant
Cyflwynir cyfyngiadau o 20mya drwy drefi Llanbed a Llanybydder i gyd a phentrefi Cwmann, Pencarreg, Llanwnnen, Drefach, Cwrtnewydd, Llangybi a rhannau o Lanllwni a Chellan. Gall ffyrdd dethol sydd â rôl strategol ac sy’n llai o risg i gerddwyr a beicwyr fod yn eithriad i’r ddeddfwriaeth.
Mae Cyngor Sir Gâr a Chyngor Ceredigion wedi asesu’r holl ffyrdd i fapio effeithiau’r ddeddfwriaeth ac i nodi’r eithriadau hyn.
Cymru fydd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd, a’r genedl gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth i gael cyfyngiad cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu gyda cherddwyr a beicwyr.
Meddai’r Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith Cyngor Sir Gâr,
“Rydym ni fel Awdurdod Lleol yn gweithredu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i osod cyfyngiad cyflymder o 20mya ar y rhan fwyaf o’n ffyrdd cyfyngedig. Prif nod y terfyn cyflymder o 20mya yw gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i bobl sy’n agored i niwed wrth ddefnyddio’r ffyrdd, ac annog mwy o gerdded a beicio. Bydd y newid yn y ddeddfwriaeth yn gofyn am newid sylfaenol mewn ymddygiad gyrwyr a byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i addysgu’r cyhoedd ynghylch y newidiadau sydd ar droed.”
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon Cyngor Ceredigion:
“Fel awdurdod lleol, rydym yn falch i’w gefnogi er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau ac annog Teithio Llesol a Chynaliadwy. Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion ar y cynlluniau 20mya felly rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”
Gall trigolion Ceredigion anfon unrhyw wrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, i adran Gwasanaethau Technegol Ceredigion ar gwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk neu’r adran Gwasanaethau Cyfreithiol, d/o Yr Ystafell Bost, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE. Rhaid derbyn gwrthwynebiadau ysgrifenedig erbyn 28 Ebrill 2023.
Mae deiseb i Senedd Cymru gyda mwy na 10,000 o enwau yn gwrthwynebu’r newidiadau yn nodi:
Bydd y newidiadau cyflymder newydd yn effeithio’n anghymesur ar amseroedd cymudo pobl sy’n teithio ar y ffyrdd i’w gwaith, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r rhan fwyaf o ffyrdd yn 30mya yn barod a heb ffyrdd osgoi â chyfyngiadau cyflymder uwch.
Beth yw eich barn chi? Newidiadau angenrheidiol er mwyn gwella diogelwch, neu gorymateb cenedlaethol a fydd yn boendod i deithwyr?