Ar ddydd Llun 11 Medi 2023, ymwelodd Joseph Coelho, Awdur Llawryfog Plant Waterstones (2022-2024), â Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan fel rhan o’i ymgyrch genedlaethol ‘Marathon Llyfrgelloedd’ er mwyn ymuno â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol trwy Brydain.
Ymunodd plant o Flwyddyn 6 Ysgol Bro Pedr ag ef yn Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ar gyfer prynhawn o adrodd straeon a barddoniaeth, gyda Coelho yn rhannu ei frwdfrydedd at lyfrau gan ysbrydoli nifer o syniadau creadigol gan y plant eu hunain.
Nod ymweliad Coelho oedd hyrwyddo llyfrgelloedd a chariad at ddarllen, ac annog pobl o bob oed i ymuno â’u llyfrgell leol. Pwysleisiodd Coelho y rôl hanfodol mae llyfrgelloedd yn ei chwarae fel hybiau hollbwysig a chanolog yn y gymuned.
Dywedodd Joseph Coelho: “I lyfrgelloedd mae’r diolch fy mod i’n awdur, a llyfrgelloedd sy’n gwneud i gymunedau ffynnu. Rwy’n hynod ddiolchgar i lyfrgelloedd a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, felly rwy eisiau defnyddio fy rôl fel Awdur Llawryfog Plant Waterstones i hyrwyddo’r deorfeydd dysgu hanfodol yma. Rwy eisiau cofleidio pob Llyfrgell, y sefydliadau gwyrthiol hyn lle mae gorwelion newydd i’w cael ar bob silff, a lle mae meddyliau’n cael eu meithrin.”
Ychwanegodd Delyth Huws, Llyfrgellydd Plant Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion: “Roedd yn gymaint o anrhydedd medru croesawu Joseph Coelho i Lyfrgell Llanbedr Pont Steffan. Mae rhannu storïau a chyd-ddarllen yn cynnig cymaint o fanteision amrywiol i blant, a chyda’r argyfwng costau byw presennol mae llyfrgelloedd yn cynnig gofod diogel a chynnes, sy’n llawn llyfrau anhygoel a fydd yn ysbrydoli plant o bob oed ac yn effeithio’n gadarnhaol ar eu bywydau yn y dyfodol.”
Ymunodd Coelho â Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ar ddiwedd ei ymweliad.
I gael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i lyfrau yn eich llyfrgell leol, ewch i wefan Llyfrgell Ceredigion.