Ysgol Llanybydder ar ‘Prosiect Pum Mil’

Y gwaith caled yn dwyn ffrwyth

gan Gwyneth Davies
Rhydian ac Emma, Gareth y pennaeth, Meinir a Kimberly cydlynwyr y Prosiect

Rhydian ac Emma, Gareth y pennaeth, Meinir a Kimberly, cydlynwyr y Prosiect

A welsoch chi Ysgol Llanybydder heno (Tachwedd 26ain) ar ‘Prosiect Pum Mil’? Wel, roedd hi’n rhaglen werth ei gweld! Ar Orffennaf 1af, 2il a’r 3ydd, croesawyd tîm Boom i’r ysgol i drawsnewid yr Hwb ‘Help Llaw’ a’r ardd tu allan. Ar ôl misoedd o drefnu, cafwyd penwythnos buddiol tu hwnt a braf oedd gweld cymaint o drigolion yr ardal yn dod ynghyd i gynorthwyo. Dillad gwaith amdani a phawb yn torchi llewys! Doedd oedran yn golygu dim gyda phobl yn eu hwythdegau yn gweithio cyn galeted â’r bobl ifanc. Erbyn prynhawn Dydd Llun, roedd yr hwb a’r ardd yn barod a chafwyd yr agoriad swyddogol. Roedd pawb a fu ynghlwm â’r prosiect yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y rhaglen ar y teledu, ac yn wir, ni chawsant eu siomi!

Ers y trawsnewidiad, mae’r Hwb wedi bod yn brysur. Y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon sy’n ei redeg a gwneir defnydd ohono gan rieni’r ysgol yn ogystal â’r Cylch Ti a Fi. Yr oriau agor yw – Dydd Llun, 8:30-9 a Dydd Mercher, 3:15-4:15. Mae llawer yn cyfrannu dillad a theganau a’r cyfan yn werthfawr dros ben i nifer o deuluoedd. Croeso i unrhyw un yn y gymuned i ddefnyddio’r Hwb.

Mae’r ardd hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Ar Fedi 30ain, cynhaliwyd y Ffair Hydref ac aeth y plant ati i baratoi cawl blasus i bawb gan ddefnyddio’r cynnyrch a dyfwyd. Hoffai’r staff ddiolch i Owen Davies am helpu’r plant i godi’r llysiau a Vicky Davies am eu helpu i wneud y cawl. Gwerthwyd tipyn o’r cynnyrch ar stondin lysiau yn ogystal.

Dywedodd Meinir Davies, Pennaeth dros dro yr ysgol:

‘Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw ffordd i sicrhau llwyddiant y prosiect yma ac i Boom wrth gwrs am y cynhyrchiad. Ry’n ni’n gwerthfawrogi’r holl waith caled yn fawr iawn.’

Felly, os na lwyddoch chi i weld y rhaglen heno, peidiwch â phoeni, gallwch ei gwylio eto ar iPlayer neu S4C Clic.