
Yn dilyn cyfarfod ym mis Ionawr, cynhelir adolygiad o ddarpariaeth 6ed dosbarth yng Ngheredigion ac fel rhan o’r ymgynghoriad mae 5 opsiwn yn cael eu hystyried wrth gamu i’r dyfodol:
Status quo : Cadw’r sefyllfa bresennol gyda 6 safle ysgol.
Status quo + : Datblygu’r sefyllfa bresennol.
Arbenigo Rhannol ar draws 6 safle : Mae hyn yn golygu byddai safleoedd penodol yn arbenigo mewn cyrsiau lleiafrifol gyda’r cyrsiau mwyaf poblogaidd yn parhau i gael eu cynnig ar draws y 6 safle.
Arbenigo Llawn ar draws 3 safle : Mae’r cynllun yma yn agor y posibiliad o sefydlu un sefydliad ar draws y 2/3 safle gyda’r safleoedd yn arbenigo mewn mewn cyrsiau lleiafrifol.
Arbenigo Llawn ar 1 safle : Byddai hyn yn golygu bod yna un coleg yn cael ei sefydlu er mwyn cynnig yr holl gyrsiau ac integreiddio’r defnydd o e-sgol i’r ddarpariaeth.
Fel rhan o’r adolygiad, lansiwyd holiadur i’r cyhoedd lle ymatebwyd 598 o ddisgyblion, 652 o rieni a 51 o athrawon. Mae’r adolygiad hwn hefyd yn ystyried data megis niferoedd dysgwyr, cyllid a niferoedd cyrsiau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cynhaliwyd cyfarfod ar yr 28ain o Fedi i drafod ymatebion i holiadur diweddar am ddyfodol y ddarpariaeth addysg ôl-16 yng Ngheredigion. Bellach mae penderfyniad wedi ei wneud i ystyried opsiwn y ‘Status Quo+’ ac ‘Arbenigo Llawn ar 1 safle’.
“angen i’r partneriaid roi sylw mwy gofalus i’r cynnig galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaethau”
Mae’r ddogfen yn datgan bod 40% o gohort blwyddyn 11 Ceredigion yn gadael yr ysgol. Rhwng 2014 a 2021, mae niferoedd y dysgwyr sy’n astudio ôl-16 yng Ngheredigion wedi disgyn o 535 i 390 ac o ganlyniad, mae’r cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn lleihau hefyd gyda gostyngiad o £273,000 o flwyddyn academaidd 2021/22 i 2022/23- cwymp o 7.05%.
“Hollol yn erbyn cau 6ed dosbarth Bro Pedr”
Yn ôl y cynghorydd Sir leol, Ann Bowen Morgan mae yna “anawsterau economaidd” i’w profi yn bresennol ond ei bod yn credu byddai cael un llywodraethiant yn “welliant”.
“Mae Llambed mewn ardal wledig a bydde’n anodd i’r disgyblion orfod teithio falle awr neu fwy yn y bore i gyrraedd Coleg 6ed dosbarth.”
“Disgyblion 6ed yn ennill hyder o fewn yr ysgol fel arweinwyr”
Aeth ymlaen i sôn am y buddion allgyrsiol o fod yn rhan o’r 6ed dosbarth ym Mro Pedr wrth ddatgan:
“Mae cadw’r 6ed ym Mro Pedr yn cyfoethogi’r dref- ieuenctid yn mynd allan amser cinio/ defnyddio’r cyfleusterau hamdden / arwain wrth drefnu digwyddiadau megis Bore goffi Shwmae i’r gymuned a’r disgyblion/bod yma er mwyn cefnogi’r CFfI ac ati/arwain Eisteddfod ysgol a sioeau cerdd.”
Mae Maer y Dref, Rhys Bebb Jones hefyd yn credu bod colli 6ed o fewn ysgolion yn golygu “colli modelau rôl i ddisgyblion” gan fod y 6ed yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau hyder i fod yn arweinwyr.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod gwariant Cyngor Sir Ceredigion ar addysg ôl-16 yn £4,194,750 sydd yn £408,519 yn fwy na’r gyllideb mae’r cyngor yn derbyn o Lywodraeth Cymru.
“effaith ar safon yr addysg mewn ardaloedd cefn gwlad”
Yn ôl Cyngor Tref Llanbed, byddai colli’r 6ed mewn ysgolion yn arwain at broblemau recriwtio staff gan na fyddai modd denu’r staff sydd eu hangen i gynnal safonau uchel yr addysg. Mae’r Cyngor Tref hefyd yn pryderu am ddyfodol yr iaith Gymraeg mewn addysg yng Ngheredigion gan fyddai llai o fyfyrwyr yn arddel yr iaith yn yr ysgol wrth gau dosbarthiadau 6ed ar draws y sir.
“ymdeimlad o berthyn i fro yn cael ei golli”
Medd y Cyngor Tref bod gwaredu 6ed o ysgolion Ceredigion yn golygu byddai llai o fyfyrwyr yn dewis astudio yng Ngheredigion gan fyddai pobl ifanc yn cael eu “colli o’u bro enedigol”
“Mae’r ieuenctid sydd yn y 6ed yn cefnogi’r dref yn economaidd wrth wario yn y siopau megis amser cinio ac ar ôl ysgol. Maent yn cefnogi cyfleusterau hamdden y dref megis y Ganolfan Lles newydd, y Pwll Nofio a Neuadd Chwaraeon y Brifysgol. Maent yn cefnogi sefydliadau yn Llanbed trwy drefnu a chynnal digwyddiadau ynddynt a’r gymuned yn Llanbed ar ei hennill o’r defnydd a’r cysylltiadau hynny rhwng yr ysgol â’r dref.”
Yn ôl canlyniadau’r holiadur, mae 39 o’r ymatebion gan ddysgwyr yn cerdded i’r ysgol neu goleg, 30 yn teithio llai na 10 munud mewn cerbyd a 51 yn teithio 10-20 munud mewn cerbyd. Nodwyd hefyd mai 1 un unig oedd yn seiclo.
“effaith andwyol ar yr amgylchedd”
Pwysleisia’r Cyngor Tref ar yr effaith byddai cynllun i ganoli’r6ed ar yr amgylchedd oherwydd yr angen byddai i deithio ledled y sir i gyrraedd y ganolfan benodol.