Adfer un o dafarndai Llanbed

Gwaith wedi dechrau ar Westy’r Castle yng nghanol y dref.

gan Ifan Meredith
IMG_1378

Mae’r gwesty yng nghanol Llanbed wedi bod ynghau am flynyddoedd bellach ond mae sibrydion wedi bod ers amser am ei ail-ddyfodiad i’r Stryd Fawr.

Ar Facebook heddiw, cafwyd cadarnhad y bydd yr adeilad yn cael ei adfer i westy a thafarn.

Bydd y llawr gwaelod yn cael ei adfer nôl i dafarn ac uwchben fydd yna ddau ‘Air Bnb’.

“Methu aros i drawsnewid yr adeilad eiconig”

Medd y cwmni ‘Hayes Heating and Homes wnaeth ryddhau post ar Facebook eu bod yn gyffrous i agor i’r cyhoedd wrth iddynt ddechrau ar y gwaith adeiladu.

Dweud eich dweud