Adran Llambed o Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn Dathlu Gwasanaeth Llwyddiannus

Gwasanaeth o ddathlu yn Eglwys Sant Iago, Cwmann i ddathlu hanes Sant Ioan

Carys Davies
gan Carys Davies

Ar nos Sul y 23ain o Fehefin cynhaliodd Adran Llambed o Ambiwlans Sant Ioan Cymru wasanaeth yn Eglwys Sant Iago, Cwmann, i ddathlu hanes Sant Ioan a ffydd a gwasanaeth y ddynoliaeth. Codwyd swm anhygoel o £704.20!

Diolch yn fawr iawn i’r esgob David Morris am ei anerchiad, y Parch Andy Herrick am drefnu ac arwain y noson, y côr lleol Corisma dan arweiniad Carys Lewis, ein gwesteion arbennig y Maer a Chynghorwyr Llambed a Chwmann a’r Prif Wirfoddolwr Richie Paskell a Comisiynydd Sir Dyfed Andy King, Emma Wood y pencampwr cymunedol lleol o’r Co-Operative am nwyddau a roddwyd, teulu’r eglwys leol a’r gynulleidfa am eu cefnogaeth a nwyddau, ymroddiad diwyro’r tîm yn Adran Llambed, ac wrth gwrs y gefnogaeth gan y gymuned leol. ‘Mlaen i’r un nesaf!

Dweud eich dweud