#Bolangefen Agoriad y ‘Cwtsh Clyd’ yng Ngwesty’r Cross Hands yn Llanybydder

Cacennau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd

gan Gwyneth Davies


Wrth deithio drwy Lanybydder, mae’n siŵr eich bod wedi gweld arwydd tu fas gwesty’r Cross Hands yn hysbysebu te a chacennau. Nos Sadwrn diwetha cafwyd agoriad swyddogol y gwesty a braf oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd i gefnogi.

Prynhawn ddoe felly, penderfynais alw mewn am baned a chlonc yn y ‘Cwtsh Clyd’. Roedd Nicola a Nadine y rheolwyr yn groesawgar iawn a’r danteithion oedd ganddynt ar ein cyfer yn flasus tu hwnt.

Roedd y lle yn llawn a chyfle da felly i gael sgwrs a rhoi’r byd yn ei le. Mae Nicola a Nadine yn darparu cacennau fegan a rhai heb glwten yn ogystal. Felly mae yna rywbeth at ddant pawb.

Mae’r ‘Cwtsh Clyd’ ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener a’r dafarn o nos Iau tan nos Sul. Dewch am dro felly i westy’r Cross Hands. Cefnogwch fusnesau lleol.

Pe hoffai rhywun arall ysgrifennu am gaffi, tafarn neu le bwyta fel rhan o gyfres #Bolangefen ar wefan Clonc360, mae croeso i chi wneud.  Yn ogystal â hynny, pe hoffai perchnogion llefydd bwyta wahodd gohebwyr Clonc360 draw am bryd o fwyd gellir trefnu bod adolygiad yn ymddangos ar y wefan. Cysylltwch drwy ebost.