Ailagor y Grannell dan arweinyddiaeth newydd

Bwyty’r Ddraig Goch i agor yn y Grannell, Llanwnnen.

gan Ifan Meredith
IMG_7817

Mewn datganiad ar Facebook, cyhoeddodd perchnogion newydd bwyty’r Grannell y byddant yn agor y bwyty dan enw newydd : Y Ddraig Goch. Yn ôl y datganiad bydd y bwyty yn arbenigo mewn stêcs allan o gig lleol er mwyn ‘sicrhau bwyd ffres o’r safon uchaf’ tra bydd yna opsiynau bwyd eraill hefyd.

Daw’r ailagoriad yn dilyn cyhoeddiad gan gyn-berchnogion y byddai’r bwyty yn cau yn syth ym mis Mawrth. Gobaith y perchnogion newydd yw agor erbyn 1 cyntaf o Orffennaf, mae’r perchnogion eisoes yn rhedeg Tafarn Cefn Hafod yng Ngorsgoch ac mi fydd perthnasau iddynt yn ymuno â nhw i sicrhau fod y ddau le yn parhau ar agor.

“angerddol am gymunedau lleol yr ardal”

Cred y perchnogion newydd fod yna botensial i gael llwyddiant mawr yn y Grannell gyda nifer gynyddol o fwytai a thafarndai yn cau yn yr ardal. Mewn ymateb am sylw gan Clonc360, wnaeth y perchnogion ddatgan y byddai’r gwesty yn ailagor hefyd gan ddarparu lle arall i aros yn yr ardal.