Aled Williams, Llanllwni yn ennill cystadleuaeth lenyddol yn y Genedlaethol

Cyntaf am drosi drama i’r Gymraeg ym Mhontypridd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
A24CBB26-04E1-4037-B33B

Llun gan Lois Williams

Cafodd Aled Williams o Lanllwni ei gyflwyno yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener am ennill cystadleuaeth “Trosi drama i’r Gymraeg”.

Dewisodd Aled gyfieithu drama “Brassed Off” gan Mark Herman a Paul Allan ac enillodd wobr o £400 yn rhoddedig gan Deri a Megan Tomos er cof am y Parch Deri Morgan Trecynon a Heulwen a David Thomas Caerdydd.  Y beirniad oedd Jeremi Cockram.

Meddai’r beirniad,

“O’r cychwyn cyntaf, mae’r cymeriadau fel petaent yn dianc oddi ar y dudalen……. mae egni’r ddeialog yn amlygu huodledd di-lol y dosbarth gweithiol, gan lwyr argyhoeddi taw pobl o gig a gwaed yw’r rhain.”

Ychwanegodd y beirniad,

“Cyflwynwyd darn o waith o safon uchel, sy’n driw i’r ddrama Saesneg wreiddiol, gan esgor ar endid newydd, cwbl Gymreig…… fe dalwn arian da o fy mhoced fy hun i’w gweld ar lwyfan”.