Anrhegion Nadolig – dwy gyfrol gan awduron lleol

D. Densil Morgan ac A. Cynfael Lake

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3701

Llun clawr y gyfrol ‘Gofal Ein Gwinllan: Ysgrifau ar gyfraniad Yr Eglwys yng Nghymru i’n Llên, ein Hanes a’n Diwylliant – Cyfrol 2’ (Golygyddion: A. Cynfael Lake a D. Densil Morgan)

IMG_3700

Emrys ap Iwan – llun clawr y gyfrol ‘Gras, Gobaith a Gogoniant: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng gwaith Emrys ap Iwan’ (D. Densil Morgan)

IMG_3133

Lansio’r cyfrolau (o’r chwith i’r dde) Cynfael Lake, Densil Morgan a Dafydd Johnston

IMG_3127

Dafydd Johnston yn cadeirio’r lansiad ac yn cyflwyno’r cyfrolau

Gofal Ein Gwinllan: Ysgrifau ar gyfraniad Yr Eglwys yng Nghymru i’n Llên, ein Hanes a’n Diwylliant – Cyfrol 2’ (Golygyddion: A. Cynfael Lake a D. Densil Morgan)

‘Gras, Gobaith a Gogoniant: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng gwaith Emrys ap Iwan’ (D. Densil Morgan)

Cynhaliwyd lansiad y ddwy gyfrol uchod yn Llanbedr Ppnt Steffan nos Lun, 18 Tachwedd yn Yr Hedyn Mwstard. Cadeiriwyd y lansiad gan yr Athro Dafydd Johnston a chawsom gyflwyniadau difyr gan A. Cynfael Lake a D. Densil Morgan am gefndir a’r gwaith o ysgrifennu a chyhoeddi’r ddwy gyfrol.

Mae’r gyfrol gyntaf yn gyfraniad pellach yn y gyfres ‘Gofal ein Gwinllan’. Dyma ail gyfrol y gyfres – cyhoeddwyd y gyntaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd yn 2023. Mae’r gyfrol hon yn ymwneud â’r rhai gyfrannodd yn helaeth at waddol diwylliannol yr Eglwys yng Nghymru yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir yma un ar bymtheg o benodau yn trafod amrywiaeth eang o bynciau megis y cyswllt Methodistaidd ar ddechrau’r ganrif, hynafiaethau a thwf ysgolheictod, bwrlwm y mudiad eisteddfodol, cyfraniad neilltuol merched a datblygiad y wasg gyfnodol. Mae cyfle rhwng y cloriau i adnabod sawl ffigwr a chymeriad allweddol eu cyfraniad yn llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru. O ddiddordeb arbennig i mi, yn gyn-fyfyriwr yn y Brifysgol ac yn byw yn Llanbed, yw pennod J. Wyn Evans, ‘Yr Esgob Thomas Burgess, yr Archddiacon Thomas Beynon a’r ymgyrch i sefydlu Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan’.

Ffrwyth y gyfrol hon fel y gyntaf yw cyhoeddi’r gwaith ymchwil a gyflwynwyd yn y seminarau ar-lein drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru ers 2021 ac ar y cyd ag Athrofa Padarn Sant. Ceir mynediad at y seminarau hynny trwy gyfrwng YouTube ar wefan yr Eglwys yng Nghymru o dan y pennawd ‘Gofal ein Gwinllan’:

www.churchinwales.org.uk/cy/about-us/welsh-language.

Cymraeg yw iaith y seminarau ond darparwyd cyfieithu-ar-y-pryd, ac mae recordiadau o’r seminarau gyda’r cyfieithu-ar-y-pryd hefyd ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru:

www.churchinwales.org.uk/ên/ about-us/welsh-language/ <http://www.churchinwales.org.uk/en/about-us/welsh-language/>.

Er hynny, ni ellir rhagori ar ddarllen ffrwyth ymchwil y cyfranwyr yn y gyfrol hon fel yn achos y gyfrol gyntaf, gan ddiolch yn fawr i awduron y penodau a’r golygyddion am eu gwaith o’r radd flaenaf. Diolch hefyd am waith graenus Gwasg y Lolfa ac am nawdd hael Ymddiriedolaeth Cronfa Isla Johnston sy’n sicrhau bod y gyfrol ar werth am £12.00 sy’n bris rhesymol am y gyfrol nodedig hon. Dyma’r gwerthfawrogiad a gyhoeddwyd gan Y Gwir Barchedig Dorrien Davies, Esgob Tyddewi, yn Rhagair y gyfrol:

‘Braint o’r fwyaf, felly, yw cael cymeradwyo’r ail gyfrol hon yn gynnes i chi. Mawr obeithiaf y byddwch yn mwynhau darllen y penodau sy’n disgrifio cyfnod diddorol iawn yn natblygiad yr Eglwys ac yn dysgu gwersi dadlennol i ni hyd yn oed heddiw wrth i ni geisio cyhoeddi Efengyl Crist ar adeg dra gwahanol….Braf iawn yw gweld ffrwyth y cydweithio creadigol rhwng yr awduron wrth iddynt drafod ystod eang o draddodiadau Cristnogol ac adrodd hanes ein cenedl gan roi ysbrydoliaeth i’r dyfodol.’

Cyhoeddir y drydedd gyfrol y gyfres yn 2025, fydd yn dilyn yr hanes hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif.

‘Un o dadau cenedlaetholdeb modern’ yw disgrifiad D. Densil Morgan am Emrys ap Iwan a gwrthrych yr ail gyfrol. Eglura yn Rhagair ei gyfrol iddo glywed gyntaf am Robert Ambrose sef Emrys ap Iwan pan yn fyfyriwr yn yr Adran y Gymraeg y Brifysgol ym Mangor yn 1973. Gwyddai felly amdano yn un o dadau cenedlaetholdeb, yn feirniad llenyddol craff, yn sylwebydd treiddgar ac yn galsurydd o ran ansawdd ei Gymraeg. O ddechrau pori yng ngweithiau Emrys ap Iwan ac yn benodol yr Homilïau, sylwodd ar gyfoeth ei ffydd Gristnogol. Hyn oll a’i hysgogodd yn 2022 i ystyried ei fywyd a’i gyfraniad o’r newydd ac arweiniodd at y gwaith ymchwil sy’n sylfaen i’r gyfrol hon.

Cawn mewn saith pennod ddadlennol a difyr, ddarlun cyfoethog o fywyd a chyfraniad toreithiog Emrys ap Iwan ac yn arbennig seiliau Beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Dyma’r gyfrol gyntaf sy’n cyflwyno dadansoddiad manwl o hynny ynghyd â chloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Nghymru ac ar y cyfandir a’r dylanwadau Ewropeaidd arno. Mae’n trafod ei waith cynhyrchiol a gwreiddioldeb y gwaith hwnnw sy’n gyfraniad pwysig yn hanes a llenyddiaeth Cymru. Dyma sut y disgrifir y gyfrol ar wefan Gwales (<https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781837721986&tsid=4#top>)

‘Mae Emrys ap Iwan yn ffigur allweddol yn hanes Cymru’r ugeinfed ganrif. Mae’r llyfr hwn yn adrodd ei stori ac yn trafod ei bwysigrwydd i fywyd y Gymru fodern.’

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru a’i phris yw £16.99.

Gellir archebu copïau o’r cyfrolau yn Siop y Smotyn Du, Llanbed ac yn eich siop lyfrau Cymraeg lleol.

Dweud eich dweud