Apêl am lety brys yn Palma i deulu lleol

Gŵr ifanc o Lanllwni mewn ysbyty wedi damwain

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
4313B445-8153-40F2-A6CF

Ysbyty Prifysgol Son Espases, Palma

Rhannwyd apêl ar facebook ddoe am lety ger Ysbyty Prifysgol Son Espases, Palma ar ynys Mallorca wedi i gŵr ifanc o Lanllwni gael triniaeth brys yno wedi damwain.

Rhannwyd y neges dros fil o weithiau wrth i gyfeillion niferus gydymdeimlo a cheisio eu gorau i estyn cymorth i aelodau’r teulu sy’n treulio cyfnod yn Palma er mwyn bod gyda’r claf.

Mae Ifor Jones yn aelod gweithgar a hoffus o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni ac fe’i rhuthrwyd i’r ysbyty gydag anafiadau difridol tra’r oedd ar benwythnos Stag ym Magaluf.

Mae trigolion agos cymuned Llanllwni a thu hwnt wedi eu syfrdanu â beth ddigwyddodd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf tra’n poeni am gyflwr y gŵr ifanc yn yr ysbyty ac yn meddwl am y teulu annwyl yn ogystal â’r hyn a wynebwyd gan y bechgyn eraill oedd ar yr un daith.

Mae’r awdurdodau yn Sbaen yn cynnal ymchwiliad, a chyhoeddodd y Swyddfa Dramor eu bod yn “rhoi cymorth i deulu dyn o Brydain a gafodd ei gludo i ysbyty yn Sbaen.”

Dweud eich dweud