Archfarchnad Lidl i ddod i Gwmann

Preswylwyr yn derbyn taflen drwy’r post ynglyn â chynigion am archfarchnad newydd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
D6D4D4F8-A20B-44B4-A689
BC6CEFB8-71C6-4E4B-B00C

Beth yw’ch ymateb chi i’r newyddion bod cwmni Lidl yn edrych mewn i’r posibiliadau o godi archfarchnad newydd 1,134 medr sgwâr yng Nghwmann?

Mae’r daflen a dderbyniodd rhai preswylwyr bore ma yn dangos cynllun archfarchnad ar dir hen fferm Penbont gyda’r brif fynedfa i’r maesparcio o brif ffordd yr A482 sy’n arwain o bentref Cwmann i dref Llanbed.

Yn ogystal ag archfarchnad arferol bwriedir cynnwys cyfleusterau modern fel becws, toiledau hygyrch, cyfleusterau newid babanod, mannau parcio i 120 o gerbydau a gwefrwyr cyflym i ddau gerbyd trydan.

Gobeithia’r cwmni greu hyd at 40 o swyddi llawn amser a rhan amser.  Ond mae sawl cwestiwn yn codi.  Oes lle i ddwy archfarchnad rhad o fewn llai na milltir i’w gilydd yn yr ardal?  Ydy cynlluniau Aldi i godi archfarchnad ar gae Pontfaen yn Llanbed yn mynd i weld golau dydd?  Pa effaith fyddai archfarchnad newydd sbon fel hyn yn ei gael ar swyddi yn y ddwy archfarchnad bresennol sef Sainsbury’s a Co-op?  A beth am yr effaith bellach ar siopau’r dref sy’n cynnwys mwy nag un becws o safon dda a chigydd?

Gwelwyd cynlluniau i godi archfarchnad yn y safle hon yng Nghwmann rhai blynyddoedd nôl gyda’r mynediad i’r maesparcio o ffordd yr A485 sy’n arwain i Bencarreg.  Gwrthodwyd y cynlluniau’r pryd hwnnw ar sail peryglon llifogydd.  Tybed os yw newid siap y cynlluniau yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i gael y maen i’r wal y tro hwn?

Gwahoddir preswylwyr i fynegi barn drwy ddychwelyd y ffurflen adborth neu wrth fynychu cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Creuddyn, Llanbed ar y 9fed Hydref rhwng 3 a 7 o’r gloch y prynhawn.

Dweud eich dweud