Beic Cwod fferm wedi ei ddwyn o Lanwnnen

Yr heddlu yn rhybuddio amaethwyr i ddiogelu eiddo

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
6C2F6AE3-34CB-4CE8-AEBE

Llun y lladron ar gefn y beic yn ardal Maenclochog oddi ar Dashcam llygad-dyst.

Bu dau leidr ar fferm yn Llanwnnen nos Iau yn dwyn beic cwod Honda coch.  Digwyddodd hyn tua 10.30 yr hwyr.  Credir i’r lladron wthio’r beic modur i’r ffordd fawr a’i yrru wedyn i gyfeiriad Blaenffos.

Mae tystiolaeth camera cylch cyfyng yn dangos dau fachgen yn mynd mewn i’r sied ar y fferm yn Llanwnnen gan edrych o gwmpas a gwthio’r beic oddi yno.

Dywedodd llefarydd ar ran y ffermwr,

“Fel os nad yw pethau’n anodd i ffermwr yn barod bod yn rhaid i rywrai ddwyn rhywbeth sy’n cael ei ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r dydd bob dydd ar y ffarm.”

Ychydig yn hwyrach ar yr un noson gwelodd gyrrwr oedd yn teithio trwy Flaenffos yr un cwad yn mynd i gyfeiriad Crymych.  Dilynwyd y cwod tuag at Faenclochog tan i’r heddlu gyrraedd, ond bu’n rhaid iddynt roi’r gorau i ddilyn y cwod oherwydd y gyrru afreolaidd a doedd gan y ddau fachgen ddim helmed.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys,

“Mae beiciau cwad ac ATVs yn darged mawr i ladron a throseddwyr hynod drefnus yn y DU. Mae’r mathau hyn o gerbydau yn hawdd i’w dwyn oherwydd gall lladron neidio ymlaen a gyrru i ffwrdd pan fyddwch yn gweithio ar fferm neu eu targedu o weithdai ac ysguboriau.

Cyhoeddodd Undeb Amaethwyr Cymru Ceredigion,

“Yn dilyn cyfres o ladradau ATV yn ddiweddar, nodyn i’ch atgoffa i dynnu’r holl allweddi oddi ar y cerbyd, a storio’r cerbyd mewn adeilad dan glo dros nos os yn bosibl a rhoi gwybod i’r Heddlu am unrhyw ladradau neu unrhyw weithgaredd amheus, a pheidiwch ag anghofio bod Heddlu Dyfed Powys yn cynnig ymweliad diogelwch fferm am ddim.”

Dweud eich dweud