Bore Coffi Prosiect Cymunedau Cynaliadwy

Clonc a phaned (am ddim) yn Festri Brondeifi

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
7d5b09c2-0f74-4c4a-b1bcDiolch i Anna Prydderch am y llun

Y criw gyda Mari Lewis (chwith) yn mwynhau paned, bisgedi a chlonc

IMG_0013

Poster Bore Coffi Prosiect Cymunedau Cynaliadwy Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

IMG_0010

Taflen gwybodaeth am Brosiect Cymunedau Cynaliadwy Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Cynhelir y Bore Coffi rhwng 10.00 ac 1.00 o’r gloch ddydd Mawrth 28ain Mai. Mae croeso i chi ddod draw i Festri Brondeifi am baned o de neu goffi a bisgedi ac i gymdeithasu a rhoi’r byd yn ei le. Cafodd criw ohonom groeso hyfryd fore Mawrth 21ain Mai gan Mari Lewis ac Anna Prydderch o Iechyd a Gofal Gwledig Cymru. Braf fu’r sgwrs dros baned a bisgedi a dod i wybod mwy gan Mari am y Prosiect Cymunedau Cynaliadwy.

Bwriad y prosiect yw cefnogi cymunedau lleol yn Llanbed ac yn Llanidloes, Powys. Gwneir hynny drwy gynnal digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol, yn rhad ac am ddim fel y Boreau Coffi yn Festri Brondeifi. Yr amcan yw adeiladu a chynnal cymunedau cryf, cysylltiedig a bywiog yn Llanbed a Llanidloes. Y gobaith yw bydd yn cynnal a gwella iechyd a lles cyffredinol y cymunedau hynny ac yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli ynddynt. Bydd y prosiect yn cysylltu gwirfoddolwyr ag unigolion a hoffai dderbyn cymorth ychwanegol megis trefnu lifftiau i ac yn ôl o apwyntiadau a chymorth gyda siopa.

Cynhelir tri Bore Coffi yn Llanbed ym Mai gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn rhan o Brosiect Cymunedau Cynaliadwy. Mae Cymunedau Cynaliadwy yn brosiect ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cael ei gefnogi gan gynllun Ffyniant Bro trwy Cynnal y Cardi a Chyngor Sir Ceredigion. Os am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn yn Llanbed, mae croeso i chi gysylltu gyda Mari Lewis drwy anfon neges e-bost at mari.lewis2@wales.nhs.uk

Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yw’r sefydliad sy’n arwain y ffordd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yng Nghymru –  https://ruralhealthandcare.wales/cy/hafan/. Ffurfiwyd a chefnogir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae’n cyd-weithio â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal ag awdurdodau lleol Ceredigion, Powys a Gwynedd.

Croeso cynnes i bawb yn Festri Brondeifi fore Mawrth 28ain Mai rhwng 10.00 ac 1.00 o’r gloch am baned a bisgedi ac i gymdeithasu a rhoi’r byd yn ei le.