‘Brecwast Mawr’ Brondeifi

Bwrlwm Wythnos Cymorth Cristnogol

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_9855

Rhai o dîm gweithgar y Brecwast Mawr

IMG_9859

Rhai o dîm gweithgar y Brecwast Mawr

IMG_9871

Rhai o gefnogwyr y Brecwast Mawr

IMG_9850

Meinir yn coginio’r cig moch a’r selsig

IMG_9853

Meleri yn coginio’r wyau

IMG_9851

Ann ac Eirian – aelodau’r tîm golchi a sychu llestri

IMG_9863

Maureen yn holi Rhiannon, Siân a Gaynor i ddyfalu nifer y botymau yn y jâr

Cynhaliwyd y ‘Brecwast Mawr’ yn Festri Brondeifi bore Mercher 15 Mai yn codi arian at waith Cymorth Cristnogol. Cawsom llond plât o selsig, cig moch, wy, tomato a ffa pob gyda thost a marmalêd cartref yn gorffen yr arlwy. Os nad oedd y brecawst hwnnw at eich dant, darparwyd ffrwythau, iogwrt a grawnfwyd i’r rhai oedd eisiau brecwast gyda llai o galorïau! ’Roedd diogonedd o sudd oren, te a choffi a’r arlwy yn siwr o fod wedi bodloni sawl bol llwyglyd.

Dechreuodd y coginio cyn 7.00 y bore gan dîm profiadol tan arweiniad Delyth, Meinir a Meleri. Agorwyd y drysau ar gyfer y ciw cyntaf o fore godwyr am 7.30 gyda rhai yn bwyta’n awchus wrth wylio’r cloc er sicrhau y byddent yn gadael i gyrraedd y gwaith mewn da bryd. Bu’n fore prysur ac un hamddenol ar adegau wrth i ni gael cyfle i fwynhau clonc gyda hwn a’r llall a rhoi’r byd yn ei le. Braf oedd gweld sawl bocs yn gadael y Festri yn llawn o rholiau bacwn – diolch yn fawr i’r holl fusnesau lleol am brynu’r rholiau i’w gweithwyr a chefnogi Cymorth Cristnogol.

Bu’r criw wrth y bwrdd raffl yn brysur iawn yn derbyn y rhoddion ariannol am frecwast ac yn tynnu sylw at y dewis eang o wobrau raffl. ’Roedd yno hefyd jâr o fotymau a’r gamp oedd dyfalu nifer y botymau yn y jâr. Nid oedd yn dasg hawdd oherwydd bod cymaint o amrywiaeth o fotymau o gwahanol maint yn y jâr. ‘Roedd fy nghynnig i yn llawer rhy uchel – y cyfanswm oedd 345!

Diolchodd Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch i’r trefnwyr am fore llwyddiannus ac i’r Parchedig Wyn Thomas, Gweinidog Capel Brondeifi am y croeso. Diolchodd i bawb fu’n coginio, yn gweini ac yn gwerthu’r tocynnau a chyfrannu’r gwobrau raffl.  Diolchodd hefyd i Anne Watkins fu’n Cenia yn ddiweddar am rannu ei phrofiadau yn sylwi ar y tlodi a’r angen yn y wlad honno a sut mae gwaith elusennau fel Cymorth Cristnogol yn medru gwella safon byw a chynnig gobaith.

Diolch yn fawr i Meinir Evans, Twynog Davies, y Parchedig Wyn Thomas a Shân Jones am y cyfweliad.

Y mae cyfanswm y rhoddion a dderbyniwyd yn cefnogi’r ‘Brecawst Mawr’ a Chymorth Cristnogol wedi cyrraedd tros £2,000 erbyn hyn. Diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch haelioni. Os nad ydych eto wedi cyfrannu at Gymorth Cristnogol, mae dal cyfle i wneud yn y blychau casglu arian sydd mewn nifer o siopau Llanbed a Llanybydder hyd ddiwedd Mai.