Carnifal Llanybydder

Wythnos lwyddiannus iawn

gan Gwyneth Davies
Adele Rees, y Frenhines a’i morynion Cadi Cope ac Eva Marsden. Megan Cope ac Erica Jones oedd Breninesau’r Tylwyth Teg.

Adele Rees, y Frenhines a’i morynion Cadi Cope ac Eva Marsden. Megan Cope ac Erica Jones oedd Breninesau’r Tylwyth Teg.

Ar Ddydd Sadwrn Mehefin 29ain, cynhaliwyd carnifal a mabolgampau blynyddol pentref Llanybydder. Yn ystod yr wythnos flaenorol, cafwyd Cymanfa Ganu, noson Bingo, dwy helfa drysor (car a cherdded) a chwis. Hoffai Pwyllgor y Pentref ddiolch i Gwyneth a Rhys Davies y llywyddion, Ieuan am arwain y carnifal Ddydd Sadwrn, ‘Halen a Pupur’ am y lluniaeth gyda’r nos, ‘Crazy Clayton’ am ddiddanu’r plant a ‘Calon’ am ddiddori’r oedolion. Diolch hefyd i’r Clwb rygbi am gael defnyddio’r adeilad a’r cae ac i bawb a gefnogodd.

Rhys a Gwyneth Davies, y llywyddion gyda’r Frenhines, Adele Rees.

Rhys a Gwyneth Davies, y llywyddion gyda’r Frenhines, Adele Rees.

Y fflôt gorau - ‘The Mad Hatter’s tea party’ enillodd y wobr gyntaf.

Y fflôt gorau – ‘The Mad Hatter’s tea party’ enillodd y wobr gyntaf.

Y fflôt gorau - ‘Winnie the Pooh’ enillodd yr ail wobr.

Y fflôt gorau – ‘Winnie the Pooh’ enillodd yr ail wobr.

Y fflôt gorau - ‘Y tri Mochyn bach’ enillodd y drydedd wobr.

Y fflôt gorau – ‘Y tri Mochyn bach’ enillodd y drydedd wobr.

Y gorau yn y carnifal (adran y plant) – Alfie Mumford

Y gorau yn y carnifal (adran y plant) – Alfie Mumford.

Y gorau yn y carnifal (adran yr Oedolion) – Helen Draycott.

Y gorau yn y carnifal (adran yr Oedolion) – Helen Draycott