Carwyn Graves yn lansio ei lyfr newydd ‘Tir: The Story of the Welsh Landscape’ ar gampws Llambed.

Aelod o staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi lansio llyfr newydd yr wythnos hon.

gan Lowri Thomas

Mae’r llyfr yn ddilyniant o’i gyfrol llwyddiannus ddiwethaf ‘Welsh Food Stories’, lle mae’n cymryd cam yn ôl o ganolbwyntio ar hanes bwyd i edrych ar hanes y tir wnaeth gynhyrchu’r bwyd. Er hyn, mae yna gysylltiad cryf gydag afalau gan fod yna bennod cyfan ar hanes perllannau yn nhirwedd Cymru yn y llyfr.

Wrth lansio’r llyfr, dywedodd Carwyn:

“Mae’n deimlad braf iawn ar ol tair blynedd o waith. Roedd hi’n amlwg wrth ddechrau ysgrifennu bod maes amaeth a bywyd gwyllt yn un dadleuol ac o bwys cynyddol – ac erbyn i’r llyfr ddod allan roedd ffermwyr yn protestio ar risiau’r Senedd. Mae hynny’n dangos pwysigrwydd deall ein tirwedd ni, a’r rôl mae amaeth a natur wedi eu chwarae yn ei siapio.”

Yn y gyfrol ‘Tir: The Story of the Welsh Landscape’ mae’r awdur a naturiaethwr yma felly yn mynd â ni ar daith o amgylch saith elfen allweddol o dirwedd Cymru, fel y ffridd, y  rhos a’r cloddiau. Trwy blymio’n ddwfn i hanes ac ecoleg pob un o’r tirweddau hyn, mae’r llyfr yn dangos fod tirlun Cymru, yn ei holl amrywiaeth hardd, lawn cymaint o greadigaeth ddiwylliannol ddynol â ffenomen naturiol: esblygodd ei deunyddiau crai ochr yn ochr â’r bodau dynol sydd wedi byw yma ers i’r iâ gilio.

Byrdwn y llyfr yw mai hanes  ynghylch pobl a natur yn datblygu ochr-yn-ochr yw hanes tirwedd Cymru hyd ganol yr 20fed ganrif, a bod y newidiadau mawr sydd wedi dod ers hynny wedi bod yn amlwg yn niweidiol i bobl yng nghefn gwlad ac hefyd i fywyd gwyllt. Mae yna wersi felly am gynhyrchu bwyd ochr-yn-ochr a natur yn ffynnu y gallwn eu dysgu o’n hanes.

Ceisio rhoi darlun ehangach i’r darllenwyr yw ymgais y llyfr. Mae Carwyn wedi mwynhau tynnu ar arbenigedd cynifer o bobl – o amaethwyr traddodiadol, i haneswyr y dirwedd (gan gynnwys yr Athro David Austin, Llambed gynt), ecolegwyr a beirdd, gan sylwi ar y gorgyffwrdd sy’n perthyn rhwng y meysydd hyn.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau PCYDDS Caerfyrddin a Llambed:

“Roedd y Brifysgol yn falch o gynnal y lansiad mewn cydweithrediad â Calon, Gwasg Prifysgol Cymru. Cafodd y gynulleidfa luosog ei chyfareddu gan wybodaeth eang Carwyn a’i ddull hamddenol a chwbl ddiymhongar o gyfathrebu agweddau ohoni trwy air a llun. Bydd cryn edrych ymlaen yn awr i ddarllen y gyfrol a mwynhau’r cynnwys cyfoethog o fewn ei chloriau.”

Ynglŷn â’r Awdur:

Mae Carwyn Graves yn awdur, siaradwr cyhoeddus, garddwr a naturiaethwr o Gymro  Mae ei gyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys  Afalau Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2018) a Welsh Food Stories (Calon, 2022), a disgrifiwyd yr olaf gan Sheila Dillon o The Food Programme ar BBC Radio 4 fel ‘un o lyfrau bwyd gorau 2022’.

Mae ‘Tir: The Story of the Welsh Landscape’ wedi’i gyhoeddi gan Calon, ac mae ar gael mewn siopau llyfrau a gan werthwyr ar-lein

Dweud eich dweud