Casgliadau Arbennig Llyfrgell Roderic Bowen yn cymryd rhan yng Ngŵyl Drysau Agored CADW

Casgliadau arbennig y Brifysgol ar gael i’r cyhoedd i’w gweld.

gan Lowri Thomas

Mae’r digwyddiad, a gynhelir rhwng 12:00pm – 4:00pm ddydd Sadwrn, 28ain Medi, yn rhan o ŵyl flynyddol a drefnir gan CADW. Mae’r ŵyl yn arddangos mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, nodweddion hynod a gemau cuddiedig yng Nghymru i’r cyhoedd ehangach, pan fydd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill yn cael eu hannog i agor eu drysau.

Yn y Casgliadau Arbennig yn Llambed mae casgliad o bwysigrwydd cenedlaethol o 35 000 o gyfrolau hanesyddol, gan gynnwys wyth llawysgrif ganoloesol a 69 o gyfrolau a argraffwyd cyn 1500.

Yn ystod y digwyddiad, bydd detholiad o’r eitemau mwyaf diddorol yn y llyfrgell yn cael eu harddangos. Bydd y rhain yn cynnwys 1279 llawysgrif o’r Beibl Lladin, y bu’r Esgob Thomas Burgess yn berchen arnynt gynt; dau lyfr oriau o’r 15fed ganrif; nifer o gyfrolau a argraffwyd cyn 1500, rhai ohonynt â darluniau o waith llaw; detholiad o atlasau cynnar; amrywiaeth o lyfrau astudiaethau natur o’r 16eg i’r 18fed ganrif, yn cynnwys yr argraffiad cyntaf, hardd o British zoology gan Thomas Pennant; a chymysgedd o gyfrolau o ddiddordeb Cymreig.  Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys deunydd diddorol o archifau’r coleg.

Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau yn y Drindod Dewi Sant:

 “Rydym yn gyffrous iawn unwaith eto i rannu rhai o’n trysorau anhygoel gyda’r gymuned ehangach trwy raglen Drysau Agored 2024. Ein gobaith yw annog chwilfrydedd a chyffro – ac annog ymwelwyr i ddychwelyd a dysgu rhagor!”

Ychwanegodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn y Drindod Dewi Sant:

 “Mae’n hyfryd gallu agor ein Casgliadau Arbennig ac Archifau eto eleni yn rhan o raglen Drysau Agored CADW 2024.

 “Rydym yn ymwybodol iawn o’n rôl allweddol yn nhirlun diwylliannol a threftadaeth Cymru, felly mae’n bwysig tu hwnt i sicrhau bod y casgliadau hyn yn parhau i fod yn hygyrch i gymunedau tu hwnt i’r Brifysgol. Hefyd hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr o dîm y Casgliadau Arbennig ac Archifau am ei gwneud yn bosibl i ni gymryd rhan yn y rhaglen arwyddocaol hon.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl Drysau Agored a gynhelir yn y Llyfrgell, cysylltwch â: r.gooding@uwtsd.ac.uk

Dweud eich dweud