Cerys Pollock yn gofyn am eich cefnogaeth

Yr arlunydd ifanc o Gwmsychpant sy’n rhan o Gynllun Llwyddo’n Lleol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
6DE1E2E5-A772-4869-9D33

Mae Cerys Pollock o Gwmsychpant yn gofyn am eich cymorth er mwyn bod yn un o enillwyr gwobr ‘Barn y Bobl’ rhaglen hyfforddiant diweddaraf Elfen Mentro Cynllun Llwyddo’n Lleol.

Mae Cerys yn arlunydd talentog sy’n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion. Dechreuodd y fenter wedi iddi raddio o Brifysgol Aberystwyth, a bellach, mae ganddi gwsmeriaid o bedwar ban byd – hyd yn oed mor bell ag America!

Pleidleisiwch am eich hoff syniad busnes ar y we.  Bydd y ddau unigolyn sy’n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau’n derbyn gwobr o £500 er mwyn datblygu eu syniad.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae 12 unigolyn wedi mynychu sesiynau hyfforddiant gydag arbenigwyr busnes i ddatblygu eu syniadau busnes.

Yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, mae pob unigolyn wedi derbyn cefnogaeth ariannol o £1000 er mwyn datblygu eu syniad!

Mae’r unigolion wedi bod yn gyfrifol am rannu eu taith ar eu platfformau cyfryngau cymdeithasol unigol. Mae modd i chi ddod i adnabod y criw, yn ogystal â darllen mwy am ymgyrch ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050, drwy ymweld â’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Cerys,

“Mae cymryd rhan yn Elfen Mentro Llwyddo’n Lleol eleni wedi bod yn fuddiol iawn wrth ddechrau fy musnes bach! Mae’r cynllun wedi fy helpu i ddeall hanfodion rhedeg busnes, yn dysgu wrth bobl lwyddiannus y byd busnes yng Nghymru. Dros yr 8 wythnos dwetha rydyn ni wedi edrych ar sut i farchnata, i ddeall cyllid yn erbyn elw ag sut i ddelio gyda straen dechrau busnes.

Mae’r sialens diweddara, ‘Barn y Bobl’ yn wych i gael y gymuned i ddod i nabod y cohort. Byddai ennill y £500 yn gwneud byd o wahaniaeth, gan fy ngalluogi i fuddsoddi mewn mwy o gynnyrch fel cardiau, printiau a chynhyrchion eraill i roi mewn siopau yn ein hardal leol. Bydden i wrth fy modd i allu gwneud hyn i ddangos fy ngwaith mewn cymaint o lefydd â phosib.

Mae yna siawns o ennill hyd at £2,500 o bunnoedd drwy’r fenter, sy’n anhygoel i rywun sy’n dechre mas fel fi. Byddwn yn bendant yn argymell unrhyw berson ifanc sy’n ystyried cychwyn busnes yn yr ardal i gymryd rhan mewn menter o’r fath.”