Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar fore Mawrth, y 5ed o Dachwedd, pleidleisiodd y cabinet yn erbyn cynlluniau i gau pob safle a’u hadleoli i un lleoliad canolog ac yn hytrach datblygu’r sefyllfa bresennol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn edrych i arbed arian yn y sector addysg ac felly wedi bod wrthi yn ystyried opsiynau i ddatblygu darpariaeth ôl-16 yn y sir. Cyflwynwyd 4 opsiwn yn wreiddiol mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn Haf 2023.
Yn ystod y cyfarfod, ystyriwyd adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn dilyn astudiaeth dichonoldeb oedd yn edrych ar ddau bosibilrwydd sef:
- Datblygu’r sefyllfa bresennol
- Datblygu un canolfan arbenigedd
Daeth yr astudiaeth dichonoldeb i’r canlyniad fod ysgolion yn dueddol o ffafrio’r syniad o ddatblygu’r sefyllfa bresennol. Nododd gwerthusiad o’r ddau opsiwn fod yn rhaid i’r cyngor ystyried natur wledig y sir, dyfodol yr iaith Gymraeg, effeithiau amgylcheddol ynghyd â chostau a buddsoddiad i’r cynllun.
Y diweddaraf yn y gyfres o gyfarfodydd oedd cyfarfod y cabinet fore Mawrth lle gwrthodwyd y cynllun i gau pob safle chweched yng Ngheredigion, gan gau pob ysgol 3-18 a 3-19 oed a’u newid i ysgolion 3-16 oed.
Gyda’r sector yn parhau i wynebu toriadau, mae pryderon yn parhau tua’r dyfodol pell wrth i gynifer o opsiynau â phosib cael eu hystyried er mwyn arbed arian.