Cloc Neuadd y Dref Llanbed wedi cael ei fandaleiddio

Datganiad o siom enbyd gan Gyngor Tref Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_2475

Cyhoeddwyd y datganiad hwn heno.

“Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan wedi ei siomi’n enbyd i adrodd ar ôl yr holl waith caled sydd wedi bod ynghlwm â sicrhau grant i adfer cloc Neuadd y Dref, ei fod wedi cael ei fandaleiddio’n ddifeddwl.

Dringodd unigolyn, neu grŵp o unigolion, y sgaffaldiau a thorri i mewn i’r tŵr, gan dorri’r gwydr hynafol a thorri dwylo’r cloc gan achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i dirnod eiconig Llanbed.

Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am y drosedd hon, cysylltwch â Heddlu Llanbedr Pont Steffan sy’n ymchwilio i’r drosedd neu gysylltu ag aelod o’r Cyngor Tref.”

Adroddwyd ar wefan Clonc360 yr wythnos ddiwethaf bod yr heddlu yn rhybuddio am y peryglon o ddringo sgaffaldau Neuadd y Dref.

Profiad chwerw felys i lawer o bobl yw gweld y llun uchod lle mae’r cloc wedi ei lanhau a’i baentio’n gymen ar un llaw ond bod niwed diangen iddo ar y llaw arall gan achosi costau mawr ychwanegol.  Pam fyddai unrhyw un gwneud hyn?

Dweud eich dweud