Cloncan : Casi Gregson yn sgwod dan 19 oed Cymru

Tro Casi yw hi i ateb cwestiynau ar ôl ei llwyddiant yn y byd pêl-droed.

gan Ifan Meredith

Mae Casi Gregson yn wyneb cyfarwydd bellach ym myd pêl-droed merched ifanc ar ôl iddi gael ei dewis droeon i gynrychioli ei gwlad.

Bellach mae’n edrych ymlaen at y cam nesaf wrth iddi gael ei dewis i fod yn rhan o sgwod Cymru dan 19 oed.

Wedi iddi symud i’r brifddinas, bues i yn dal lan gyda hi cyn iddi fynd i ffwrdd i chwarae ym Mhortiwgal.

Dweud eich dweud