Clwb Rotary Llanbed yn cefnogi Banc Bwyd Llanbed

Clwb Rotary Llanbed yn dod i ben

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3703

Sandra Jones (ar ran Banc Bwyd Llanbed) yn derbyn rhodd oddi wrth Rhys Bebb Jones (ar ran Clwb Rotary Llanbed)

IMG_3482

Nans Davies a Sandra Jones yn darparu’r bagiau o fwydydd i’w dosbarthu gan Fanc Bwyd Llanbed

IMG_3480

Silffoedd storfa Banc Bwyd Llanbed – byddant yn wag erbyn i’r Banc Bwyd ddosbarthu’r holl fagiau o eitemau i drigolion Llanbed a’r Cylch y Nadolig hwn

Cyflwynodd Clwb Rotary Llanbed rhodd o £120.49 i Fanc Bwyd Llanbed. Dyma’r arian oedd yn weddill yng Nghyfrif Elusennol Clwb Rotary Llanbed cyn bod y cyfrifon banc yn cael eu cau.

Mae’r Clwb Rotary yn falch iawn o gefnog’r Banc Bwyd unwaith eto. Mae’n cydnabod gwaith allweddol ac amhrisiadwy’r Banc Bwyd yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sydd mewn angen yn Llanbed. Gwerthfawrogir eu gwasanaeth yn arbennig wrth i gostau, megis bwydydd a thanwydd, gynyddu. Mae derbyn rhoddion ariannol fel un y Clwb Rotary yn eu galluogi i brynu bwydydd angenrheidiol.

Mae’r Banc Bwyd hefyd yn ddiolchgar iawn am y rhoddion dyddiol o eitemau adewir gan y cyhoedd mewn sawl lleoliad yn Llanbed. Dymunant atgoffa pawb na ellir derbyn bwydydd ffres ac mai bwydydd mewn tuniau a phacedi sych sydd orau ganddynt. Ni ddylai’r bwydydd ychwaith fod wedi mynd heibio’r dyddiad gellir eu defnyddio.

Daw’r Clwb Rotary yn Llanbed i ben wedi 54 mlynedd o wasanaeth. Bu’n benderfyniad anodd iawn ond nid oedd yn bosibl i’r 5 aelod oedd ar ôl barhau i’w gynnal. Diolch yn fawr iawn i drigolion tref ac ardal Llanbed am gefnogi’r Clwb Rotary ers dros hanner canrif. Eich cefnogaeth alluogodd y Clwb i gynnig gwasanaeth cymunedol a chynnal gweithgareddau codi arian er budd achosion da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dweud eich dweud