Colli Caradog Jones y beili dŵr

Un o gymeriadau mwyaf diddorol Llanbed wedi marw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
BA778A5F-321F-4552-B19F

Trist iawn yw deall heddiw y bu farw Caradog Jones, Llanbed.  Treuliodd y blynyddoedd diwethaf yn byw yng Nghaernarfon.

Dyma fel yr ysgrifennodd Twynog Davies amdano yn y golofn ‘Cymeriadau Bro’ Papur Bro Clonc ym mis Chwefror 2001.

I lawer ohonom, mae’r syniad o fod yn “Feili Dŵr” yn ein cyfeirio yn syth at ddewrder a pheryglon y gwaith, ond i Caradog, ni fuasai wedi newid her y swydd am ddim arall. Ond ble gychwynnodd y daith?

Ganwyd ef yn un o saith o blant ar fferm gyda’r enw hyfryd, Lletycariad, ger pentref Llidiardnenog. Cigydd oedd ei dad, yn mynd o gwmpas y ffermydd a’r fro, a hynny ar ôl iddo frwydro dros ei wlad a chael ei niweidio ym mrwydr waedlyd y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd cerdded i Ysgol Gwernogle ar hyd llwybr tarw yn golygu taith o chwe milltir yn ôl ac ymlaen ond gwerthfawrogodd yn fawr yr addysg a gafodd yn yr ysgol fach wledig.

Daeth yr adeg, er hynny, i adael yr ysgol ac yntau ond yn bedair ar ddeg oed. Yr unig ddewis bron ar y pryd oedd mynd i weithio i’r fforest ym Mrechfa. Ei ddyletswydd o’r diwrnod cyntaf oedd ‘trasho’r’ chwyn rhwng y coed ‘Douglas Fir’ ac roedd yna ddisgwyl iddo glirio cyfer y dydd am dâl o goron gan ddefnyddio ei gryman ei hun. Roedd bywyd yn galed. Mae’n cofio mynd i’w waith y diwrnod cyntaf yn dioddef o’r ddannoedd wyllt, ei draed yn wlyb a the oer i ginio! Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, ei ail ddyletswydd oedd plannu coed yn y rhychau a baratowyd iddo o flaen llaw. Roedd yna ddisgwyl iddo gychwyn gweithio am 7 o’r gloch y bore ar ôl cerdded dwy filltir i’w waith a’r nod a osodwyd oedd cant o goed mewn ugain munud. Erbyn heddiw mae’r coed hynny wedi eu cynaeafu. Cafodd gyfnod pellach o weithio yn y goedwig drwy yrru’r bulldozers’ er mwyn gwneud ffyrdd priodol yn y fforest. Nid oedd y gwaith yma yn bleserus iawn gan fod mŵg y disel yn medru amharu ar yr iechyd.

Ar ôl deuddeng mlynedd, roedd yn amser i adael fforest Brechfa a chwilio am gyfeiriad newydd. Yn 1955 apwyntiwyd ef yn feili dŵr ar afon Cothi. Ar ôl blwyddyn o hyfforddiant, roedd ef a chyfaill iddo yn gyfrifol am y Cothi o fferm Nantyrast yng Nghwrtycadno i lawr i Nantgaredig. Dyma’r adeg pan oedd yr afonydd yn frith o eogiaid a brithyll y môr (sewin) ac yr oedd bywyd yn medru bod yn fras i’r heliwr neu’r ‘potsiar’ fel y gelwir ef. Ar ôl cyfnod yn gwarchod y Cothi, symudodd i lawr i’r swyddfa yn Llanelli, ond erbyn hyn roedd yn byw ar fferm 90 cyfer yn Rhydcymerau o’r enw Pwllcynbyd.

Ar ôl priodi ei ‘briod annwyl’ Nel, a hithau yn byw yn Silian, dyma ymgartrefu yn Llwynhelyg, Alltyblacca cyn symud ymhellach er mwyn cael ychydig o dir a chadw defaid, i Maesllan, Llanwnnen. Ond tua phedair blynedd yn ôl symud eto i’w cartref moethus yng Nghoed y Glyn, Rhodfa Glynhebog. Yn y cyfamser, cafodd ddyrchafiad pellach wrth iddo dderbyn cyfrifoldeb am y Teifi o Bontrhydfendigaid i lawr i Lanybydder. Yn 1979 daeth pinacl ei yrfa wrth iddo gael ei benodi yn brif swyddog gydag wyth o bobl yn gweithio o dano. Golygai hynny bod ganddo gyfrifoldeb gyda’i gyd weithwyr i warchod afonydd Gwaun, Nevern, Teifi, Aeron, Ystwyth a Rheidiol a rhai dyletswyddau i wneud ag amgylchfyd y môr o Strumble Head i Glarach. Gan fod nifer y pysgod yn llai erbyn heddiw, mae nifer y beilïaid sy’n gwarchod yr afonydd hefyd wedi lleihau’n sylweddol.

Ond beth oedd dyletswyddau’r gwaith a sut oedd mynd ati i ddal y potsiar cyfrwys? Yn ôl Caradog, “Roedd rhai ohonynt yn medru gwibio o gwmpas yr afonydd a’r coedwigoedd fel llyswennod”. Y drefn yn aml oedd cychwyn ar y motor beic am tua 8 o’r gloch y nos a chyfarfod â thri beili arall mewn rhyw fan arbennig. Byddai’r pedwar ohonynt yn mynd i mewn i’r dinghy yn nhywyllwch y nos ac yn symud i lawr yr afon yn osgeiddig a thawel wrth chwilio am rwydau oedd wedi’u gosod gan y potsiar dros geg yr afon. Defnyddiwyd lampau, radio, ac weithiau cŵn alsatian er mwyn ceisio dal y troseddwyr. Roedd cael eu dal yn aml yn arwain at lawer o chwerwder a chasineb.” Medrai’r gosb ariannol amrywio o £200 i £1,000 neu weithiau cyfnod yn y carchar.

Roedd  gan y diweddar Parchedig Jacob Davies ddiddordeb mawr yng ngwaith Caradog. Roedd wedi rhoi ei galon ar gael ymuno gyda’r criw yn y dinghy er mwyn dal y troseddwyr ond yn anffodus rhaid oedd ei wrthod oherwydd y gofynion yswiriant. Golygai’r gwaith ei bod yn rhaid gweithio yn aml o 8 y nos tan 8 y bore a phob amser yn ystod Gŵyl y Banc. Roedd hyn yn medru creu rhai problemau wrth fagu teulu yn enwedig pan oedd y plant am fynd i ffwrdd yn ystod y gwyliau.

Rhan arall o’r dyletswyddau oedd sicrhau fod gan bob pysgotwr drwydded i bysgota a bod yr abwyd yn gyfreithlon.

Byddai rhai o’r potseriaid mwyaf mentrus a phrofiadol yn danfon eu pysgod mor bell â Billingsgate ond, i eraill, bodloni gofynion y teulu a ffrindiau oedd yr unig nod. Efallai mai hobi anghyfreithlon oedd hi i rai ond ymgais i wneud busnes oedd hi i eraill. Erbyn heddiw, mae’r Beili Dŵr yn medru defnyddio camerâu pwerus a soffistigedig ac mae’r lluniau yn ddigon i ddod â’r troseddwyr o flaen eu gwell. Mae’r defnydd o radio hefyd yn help i gysylltu gyda chydweithwyr er mwyn ceisio dal pobl sy’n pysgota yn anghyfreithlon.

Ar ôl gweithio am 32 mlynedd yn gwylio’r afonydd a’r glannau a’r cyfrifoldeb erbyn hyn wedi ymestyn o Hwlffordd i Frycheiniog, daeth yr amser i ymddeol. Am ei waith diflino a’i ddewrder, enillodd yr M.B.E. gan y Frenhines – gwobr deilwng am ddiwrnod gonest o waith. Does dim rhyfedd ei fod wedi ymddangos droeon yn sôn am ei brofiadau ar y radio a phwy all anghofio ei raglenni gyda Dai Jones ar ‘Cefn Gwlad’. Methodd yn lân â chadw Dai tu fewn i’r dinghy ar y Teifi ond llwyddodd i’w atal rhag boddi.

Er bod Caradog wedi treulio llawer o’i oes â’i draed mewn dŵr, un o’i diddordebau bellach yw hedfan gyda’i fab Lyn mewn hofrennydd a gweld o’r awyr rai o’r afonydd a’r dyffrynnoedd lle bu’n gweithio am flynyddoedd. Tybed a fydd yn sôn wrth Lyn am ambell un o’r cymeriadau a ddiflannodd, gan lwyddo i drechu hyd yn oed Caradog! Erbyn heddiw mae’n siŵr mai ef fyddai’r cyntaf i’w llongyfarch!

Mae gan Caradog a Nel ddau o blant. Mae Lyn yn beiriannydd lleol sydd newydd ddychwelyd o’r Wladfa ac mae Menna yn brif-weithredwr Antur Waunfawr. Mae’r fenter lwyddiannus yma wedi’i sefydlu i helpu ieuenctid gydag anghenion arbennig. Mae ganddynt wŷr bach Mabon, sydd yn llenwi bywyd y ddau ohonynt ac yn gymaint o gymeriad â’i dad-cu.

Heb os, mae Caradog yn berson hoffus a lliwgar, yn gwmnïwr da, ac yn storïwr heb ei ail. Efallai fod ambell i stori, fel y pysgod a ddaliwyd gan bysgotwyr, wedi ymestyn tipyn dros y blynyddoedd, ond dyna reddf pobl sydd wedi gweithio a byw wrth ochr ein hafonydd! O ran ei grefydd mae’n Fedyddiwr selog. Wel beth arall fedrai fod! Caradog yw Llywydd y Cylch Cinio am eleni ac mae’n llwyddo yn ei ffordd hamddenol, gartrefol ei hun gydag ychydig o hiwmor slic a gwreiddiol i gadw trefn ar griw swnllyd o ddynion.

Mae amcanion y Cylch Cinio, sydd yn hybu Cymreictod y Fro ac yn helpu achosion da, yn golygu llawer iddo. Er i mi gael fy magu ar fferm yn agos iawn i’r afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin ychydig a feddyliais, tan i mi dreulio orig ddiddorol yng nghwmni Caradog, pa mor rhamantus, cyffrous a pheryglus y medrai bywyd fod o gwmpas yr afon.

Ailgyhoeddwyd y portread uchod mewn cyfrol o 44 portread gan Twynog o dan yr un teitl sef Cymeriadau Bro yn 2007.