Cychwyn y cystadlu yn Eisteddfod Llanbed

Cyflwyno gwaith Celf a Chrefft i’w beirniadu.

gan Ifan Meredith
IMG_1107Nia Wyn Davies
IMG_1108Rhiannon Lewis
IMG_1109Rhiannon Lewis

Roedd nos Fercher yn noson brysur yn Ysgol Bro Pedr wrth i gystadleuwyr ddod â’u campweithiau i gael eu beirniadu cyn cael eu harddangos wrth y fynedfa i Eisteddfod Llanbed 2024 y penwythnos YMA!

Mae dechrau’r cystadlu wedi cychwyn wrth i Lynwen Jenkins a Seren Jenkins, beirniaid y cystadlaethau Celf a Chrefft droedio o gwmpas yr arddangosfa yn dyfarnu gwobrau 1af 2ail a 3ydd.

Er mai nos Wener fydd y cystadlu yn cychwyn gyda’r Talwrn, mi fydd campweithiau’r Celf a Chrefft i’w gweld trwy gydol dydd Sadwrn a dydd Llun tan tua 6yh a Seremoni’r Celf a Chrefft yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn ar lwyfan yr Eisteddfod. Mae’r holl eitemau yn y cystadlaethau yn wledd i’r llygaid o’r cystadlaethau Cynradd yr holl ffordd tuag at y cystadlaethau agored.

Felly, beth am ddod draw i Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbed eleni? Bydd yna wledd o gystadlu a chyfle i weld campweithiau’r Celf a Chrefft.

Dweud eich dweud