Barn cryf am y peilonau gan bobl Cellan mewn cyfarfod cyhoeddus

Neuadd Mileniwm Cellan dan ei sang o bobl yn pryderu

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_0747

Llun gan Chris Lambert.

Lle i sefyll yn unig oedd yn Neuadd Mileniwm Cellan brynhawn Sadwrn ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus i drafod y cynnig gan GreenGEN Cymru i osod peilonau dur 27m o uchder a llinellau trydan uwchben newydd o Landdewi Brefi ar hyd Ddyffryn Teifi i Gaerfyrddin.

Dymuna’r trefnwyr ddiolch i bawb a ddaeth draw i rannu eu barn, gwybodaeth, ymchwil, syniadau a phrofiad.

Cynhelir y sesiwn galw heibio gyda GreenGEN Cymru ddydd Iau yma, 22 Chwefror o 2 tan 7 yn y Neuadd.

Dymuna drigolion Cellan a’r cyffiniau rannu manylion y cyfarfod gyda ffrindiau a chymdogion nad ydynt ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrau presenoldeb cryf ar ddydd Iau.