Cyflwyno Cymru i’r Caribî: Taith cyfnewid diwylliannol Xion

Xion Da Breo yn dathlu’r haf hwn, gan nodi penllanw taith ryfeddol a ddechreuodd 2 flynedd yn ôl

gan Lowri Thomas

Mae Xion Da Breo yn dathlu’r haf hwn, gan nodi penllanw taith ryfeddol a ddechreuodd ym mis Ionawr 2022 pan gyrhaeddodd ef a thri deg chwech o fyfyrwyr eraill o Saint Vincent a’r Grenadines (SVG) yng Nghymru i gychwyn ar brofiad addysgol a diwylliannol.

Pan gyrhaeddodd ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed, a fyddai’n gartref iddo ef a’i gyd-fyfyrwyr o SVG am y ddwy flynedd a hanner nesaf, roedd argraffiadau cychwynnol Xion yn union fel y gallech ei ddisgwyl wrth gyrraedd cefn gwlad Cymru yng nghanol y gaeaf o ardal drofannol y Caribî.

Meddai: “Pan gyrhaeddais i Lambed, beth sylwais arno yn gyntaf oedd ei fod yn oer iawn a bod yna lawer o ddefaid! Byddwn yn eu clywed gyda’r nos cyn mynd i gysgu a’r peth cyntaf yn y bore wrth i mi ddeffro. Roedd popeth yn fy nghartref newydd yn ffres ac yn gyffrous ac roeddwn yn barod i gychwyn ar y daith â meddwl agored.”

Roedd y Drindod Dewi Sant yn falch o gynnig cynllun ysgoloriaeth mewn partneriaeth â Mr Raplh Gonsalves, Prif Weinidog SVG yn dilyn trafodaethau ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Gymru ar y pryd yn dilyn ffrwydrad y llosgfynydd ar St Vincent yn Ebrill 2021.

Er nad oedd yn sicr mai dyma’r llwybr iddo fe ar y dechrau, gyda rhywfaint o berswâd, gwnaeth ei gais i astudio BA Datblygu Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang yn Llambed, cwrs a nodwyd gan ei lywodraeth fel un a fyddai’n fuddiol i ddatblygiad y wlad. Gan bacio ei fagiau, fe wnaeth y daith hir i Gymru.

Yn ystod ei amser yma, mae Xion wedi manteisio ar gyfleoedd ar gampws gwledig Llambed gan gymryd rhan yn frwdfrydig mewn gweithgareddau allgyrsiol a chyfrannu at y gymuned leol. Mae hefyd wedi ymdrwytho yn iaith a diwylliant Cymru ac meddai:

“Ymunais â phwyllgor carnifal y dref fel ffordd o ddysgu am ddiwylliant Cymru ac i gyfnewid gwybodaeth am ein hynys ni. Pan af yn ôl i St Vincent a’r Grenadines byddaf yn defnyddio’r cyfarchion ‘Shwmae’ a ‘Bore da’ i gyfarch fy ffrindiau a’m teulu, yn y gobaith o ddod ag ychydig bach o Gymru i’m tref enedigol, Clare Valley.”

“Dwi hyd yn oed wedi dod i garu gwylio rygbi ac wedi ymuno â thîm rygbi’r campws. Er fy mod wedi mwynhau dysgu’r gêm, mae’r elfen gorfforol wedi bod yn eithaf brawychus ar adegau!”

Yn ogystal â mynd â pheth o ddiwylliant Cymru adref gydag ef, mae Xion yn edrych ymlaen at ddychwelyd i SVG i gael effaith gadarnhaol a rhoi ar waith yr hyn y mae wedi’i ddysgu ar ei gwrs.

Dywedodd: “Dwi am ddefnyddio fy ngradd er budd fy nghymuned leol. Dwi’n bwriadu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau dwi wedi’u caffael trwy ryngweithio â sefydliadau lleol, megis y Groes Goch neu grwpiau crefyddol, mewn ymdrech i wella’r gymuned mewn ffordd sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac yn deg i bawb.”

Dywedodd hefyd: “Dwi wedi caru fy amser yn Llambed a dwi’n ddiolchgar am y ffrindiau dwi wedi’u gwneud ac sydd wedi cyfrannu cymaint at fy amser yma.”

Yn union fel y mae Llambed wedi ei siapio ef, bydd personoliaeth a brwdfrydedd bywiog Xion yn gadael marc parhaol ar Lambed. Mae ei ymwneud â bywyd y campws a’r dref wedi cyfoethogi’r gymuned.