Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2024 yw Lisa Evans, myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC o Langybi ger Llambed.
Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd.
Bu Norah Isaac yn Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau’n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.
Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Lisa yn derbyn ei gwobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau graddio.
Dywedodd Meryl Bowen, Darlithydd Addysg Gychwynnol Athrawon o’r Drindod Dewi Sant:
“Bu angerdd a brwdfrydedd Lisa, myfyrwraig ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC, dros bopeth Cymraeg a Chymreig yn ysbrydoliaeth i’w chyfoedion ar draws y Brifysgol dros y tair blynedd ddiwethaf.
“Fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg bu’n llysgennad penigamp wrth hybu’r Gymraeg a Chymreictod, ac mae wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau parhad i’r Gymdeithas ac yn cydnabod y pwysigrwydd o’i fodolaeth i’r Brifysgol. Gwnaeth annog myfyrwyr i ymuno yn yr amryw o weithgareddau a gyniga’r Brifysgol, ac i fanteisio ar bob cyfle posib.
“Gweithiodd yn ddiwyd hefyd i drefnu sesiynau hyfforddi a gweithgareddau cymdeithasol yn enw’r Gymdeithas a hynny trwy gyfwng y Gymraeg neu’n ddwyiethiog. Dangosodd sgiliau trefnu ardderchog pan drefnodd taith i’r Iwerddon ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chydweithiodd yn ddiflino gyda’i chyd-fyfyrwyr i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.
“Yn ystod ei phrofiad addysgu proffesiynol llwyddiannus, ymdrechodd i godi safonau iaith y dysgwyr ifanc dan ei gofal. Yn ychwanegol at ofynion ei chwrs, astudiodd ar gyfer arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”
Meddai Lisa:
“Mae’n fraint ac anrhydedd i dderbyn gwobr goffa Norah Isaac, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig ofnadwy i mi, a roedd cael y cyfle i hybu’r iaith Gymraeg ar gampws Gaerfyrddin yn fythgofiadwy trwy ail gydio’n y gymdeithas Gymraeg i fod yn gymdeithas gadarn ar gyfer y dyfodol”
Mae Lisa’n gobeithio dysgu am flwyddyn wedi graddio, ac yna dychwelyd i’r Brifysgol er mwyn cwbwlhau diploma i fod yn gwnselydd plant.
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin,
“Mor braf yw cael llongyfarch Lisa Evans ar ennill Gwobr Goffa Norah Isaac eleni, a hynny ar ran Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin. Mae’r wobr flynyddol hon i werthfawrogi cyfraniad myfyriwr neu fyfyrwraig am eu gwaith yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg mor bwysig wrth i ni gofio am Norah Isaac a’r hyn a wnaeth hi yn y maes hwnnw.”