Cyhoeddi rhaglen o ddigwyddiadau gwanwyn Tir Glas.

Digwyddiadau cyffrous ar y gweill ar gampws Llambed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

gan Lowri Thomas

Mae datblygiad Tir Glas ar gampws Llambed o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi ei raglen o ddigwyddiadau yn ystod Tymor y Gwanwyn.

Mae Tir Glas yn gymuned academaidd ac ymarferol gyda’r nod o ddatblygu bywyd gwledig cynaladwy, gan hyrwyddo ffyniant economaidd yn ogystal ag arddangos gwir gyfrifoldeb amgylcheddol tra’n gwarchod treftadaeth ddiwyllianol.

Mi fydd rhaglen ddigwyddiadau’r gwanwyn yn dechrau gyda noson arbennig ar Ionawr 29ain am 5.30 yr hwyr yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws Llambed yng nghwmni Simon Wright o Wrights Emporium Llanarthne a’r cogydd enwog Nathan Davies. Mae Nathan yn wyneb cyfarwydd fel cyn gogydd bwyty Ynyshir ac SY23 yn Aberystwyth, ac yn ystod y noson mi fydd yn sgwrsio gyda Simon am ei yrfa lwyddiannus, gan gynnwys ennill seren Michelin.

Yna ar Chwefror 21ain, bydd dangosiad o’r ffilm ‘Rooted: Growing a Local Food Ecosystem’ yn yr Hen Neuadd. Arweinyddiaeth Bwyd & Cook 24 fydd yn hoelio’r sylw fis Mawrth, gyda noson yn trafod Perlysiau Pwerus gyda Sami o Roots yn cloi’r rhaglen fis Ebrill.

Dywedodd Hazel Thomas, Cydlynydd Tir Glas:

“Gyda datblygiadau Tir Glas wedi denu cefnogaeth o fewn y gymuned leol dros y misoedd diwethaf, roedd yn bwysig ein bod yn creu rhaglen o ddigwyddiadau a fyddai’n cadw’r momentwm yna i fynd. Mae digwyddiadau’r gwanwyn yn cael eu hyrwyddo ar hyn o bryd gyda mwy i ddilyn.  Mewn cyfnod o ansicrwydd yn y byd mae mor bwysig ein bod yn cadw llygad ar ein milltir sgwâr a chynnwys y gymuned ar bob cam o ddatblygiadau Tir Glas.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â hazel.thomas@uwtsd.ac.uk