Cylch Meithrin newydd sbon Pont Pedr yn agor yn Llanbed

Lle pwrpasol i blant 2-4 mlwydd oed dderbyn gofal o safon uchel 

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan
864EDB94-A536-4B92-BB3F

Y staff Kayleigh, Abigail, Annwen a Bethan.

656E9608-ADAC-4B1C-A8B0

Arweinydd y Cylch Annwen Thomas.

Wedi misoedd lawer o baratoi mae’n braf gennym ddatgan fod ein Cylch meithrin newydd wedi agor ers 3 wythnos erbyn hyn. Diolch i lawer o waith gan ein pwyllgor brwdfrydig a chefnogaeth amhrisiadwy Carole Williams o’r Mudiad Meithrin, Gayle Hughes o Dechrau’n Deg a Carys Morgan a Nia Lloyd Evans o ysgol Bro Pedr.

Mae naw o blant bach 2 oed wedi dechrau yn y boreau a bydd mwy yn ymuno unwaith bydd ein AGC llawn wedi cofrestru a’r Cylch yn agored drwy’r dydd  Mae’n diolch i’r pennaeth a llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr am ganiatau gofodi ni yn yr Ysgol iau am y 3 blynedd nesa gan hyderu y byddwn mewn ffordd i adeiladu adeilad pwrpasol ar dir yr ysgol erbyn hynny.

Dywed arweinydd brwdfrydig y Cylch Annwen Thomas,

“Dwi wrth fy modd yn arwain y Cylch a gweld plant yr ardal yn ffynnu a datblygu eu sgiliau drwy chwarae.  Mae’n braf i’w gweld nhw mor hapus yn ein cylch newydd.

Y staff yw Kayleigh, Abigail, Annwen a Bethan – Mae dwy yn llawn amser a dwy yn rhan amser.

Dyma ddywed Carole Williams, Swyddog sefydlu a Symud talaith y de orllewin a fu’n gwbwl hanfodol i ni fel pwyllgor wrth sefydlu’r cylch:

“Mae Mudiad Meithrin yn gyffrous wrth i Gylch meithrin Pont Pedr agor ei drysau o dan gynllun Sefydlu a Symud y Mudiad.

Rydym yn ddiolchgar iawn i nifer fawr o drigolion yr ardal, athrawon a Phennaethiaid Ysgol BroPpedr, cynghorwyr lleol a sirol, rhieni ac aelodau o ganolfan Deuluol Llanbed am eu cymorth wrth fynd ati i ddatblygu ac agor Cylch Meithrin Pont Pedr.”

Roedd Dechrau’n deg hefyd wedi bod yn un o’r partneriaid wrth osod y Cylch yn ei le a dyma beth oedd gan Gail MacDonald I’w ddweud:

“Braf gweld bod Cylch Meithrin Pontpedr wedi agpr.  Roedd galw mawr am ofal sesiynol yn Llanbed ac mae cyd-weithio rhwng  y partneriaid yn golygu bod lle pwrpasol i blant 2-4 mlwydd oed dderbyn gofal o safon uchel.  Bydd yn gyfle gwych i blant oed cyn-ysgol dderbyn profiadau difyr mewn amgylchedd effeithiol gyda staff profiadol.”

Byddwn yn trefnu digwyddiadau yn y misoedd nesaf i gefnogi rhedeg y cylch ac os oes gennych syniadau ac am ymuno â’r pwyllgor gweithgareddau mae croeso mawr i chi.

Os ydych yn awyddus i’ch plant 2-3 oed ymuno a chofrestru yn y cylch cysylltwch ag Annwen Thomas yr arweinydd ar cmpontpedr@gmail.com

Dweud eich dweud